Neidio i'r prif gynnwy

Uwch Arbenigwyr/Ymarferwyr Hybu Iechyd

Alex Wood

Uwch Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd

Mae Alex yn Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd profiadol. Ar ôl gweithio ym maes datblygu cymunedol, gan weithredu dulliau sy’n seiliedig ar asedau, mae ganddi angerdd dros rymuso cymunedau i helpu i fanteisio ar gryfderau ac adnoddau a chreu newid cadarnhaol.

Mae hi wedi gweithio ym meysydd iechyd yn y gweithle, ysgolion iach, a’r blynyddoedd cynnar. Mae hi’n fedrus wrth drosi tystiolaeth yn weithredoedd. Cwblhaodd Alex ei gradd MSc o Brifysgol Bryste yn 2008 gyda rhagoriaeth. Mae Alex wedi datblygu arbenigedd mewn dulliau system gyfan ar gyfer gweithgarwch corfforol.

Mae Alex yn adnabyddus am ei gweledigaeth strategol, ei ffordd greadigol o ddatrys problemau a’i hymrwymiad diwyro at wella canlyniadau iechyd y boblogaeth.

Yn ddiweddar mae hi wedi rhoi darlithoedd ar y radd MSc mewn Iechyd y Cyhoedd yng Nghaerdydd ac wedi cyflwyno sgyrsiau mewn nifer o gynadleddau. Mae hi’n eiriolwr angerddol dros gydraddoldeb.

Helen Griffith

Uwch Arbenigwr Hybu Iechyd
Ymunodd Helen â’r tîm yn 2017 fel Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd a daeth yn Uwch Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd yn 2019, gan weithio ar Bwysau Iach/Amgylcheddau Bwyd Iach, Atal Diabetes a Lleihau Niwed Alcohol.
Cyn ymuno â Chaerdydd a’r Fro, bu Helen yn gweithio i Dîm Iechyd y Cyhoedd Lleol Aneurin Bevan, gan gefnogi cyflwyno’r Rhaglen Gwiriad Iechyd Byw’n Iach, Byw’n Hirach. Cyn hyn. roedd Helen yn Swyddog Iechyd a Lles gyda Thîm Cymunedau yn Gyntaf yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Mae gan Helen radd BSc mewn Datblygu Chwaraeon a phrofiad o weithio yn y diwydiant hyfforddi a ffitrwydd, a arweiniodd yn raddol at gymryd mwy o ddiddordeb mewn maeth a rheoli pwysau a’i effaith ar iechyd. Cwblhaodd Helen MSc mewn Arwain Trawsnewid Digidol ym mis Mawrth 2025, gyda diddordeb brwd mewn defnyddio datblygiadau mewn technoleg i wella ffyrdd o weithio a darparu’r gofal iechyd gorau.

Laura Wilson

Uwch Arbenigwr Hybu Iechyd
Mae Laura wedi bod yn aelod o Dîm Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a’r Fro ers 2013, gan weithio ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys iechyd rhywiol, gweithgarwch corfforol ac alcohol.
Mae ei rôl bresennol yn canolbwyntio ar reoli tybaco, atal achosion o gwympo ac imiwneiddio plant. Mae Laura hefyd ar secondiad yn gweithio gyda Thîm Diogelwch Cleifion BIP Caerdydd a’r Fro i ddatblygu’r Llwybr Cwympiadau Cymunedol a chyd-gynhyrchu cyrsiau cymunedol i alluogi preswylwyr i heneiddio’n dda a lleihau eu risg o gwympiadau.
Cyn ymuno â Thîm Iechyd y Cyhoedd, bu Laura’n gweithio yn y trydydd sector gyda rolau mewn gwasanaethau camddefnyddio sylweddau ac fel cydlynydd hybu iechyd ar gyfer Elusen Canser y Fron.

Kim Wilyman

Uwch Arbenigwr Hybu Iechyd
Ymunodd Kim â thîm Iechyd y Cyhoedd yn 2022 fel Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd yn gweithio yn nhîm Ysgolion Iach Bro Morgannwg. Yn 2024, dechreuodd Kim fel Ymarferydd Arbenigol yn arwain Cynllun Ysgolion Iach a Chynaliadwy’r Fro a thîm Ysgolion Iach y Fro.
Mae hi wedi gweithio yn y GIG ers dros 17 mlynedd, gan weithio i ddechrau fel nyrs oedolion, ac ar ôl cwblhau diploma ôl-raddedig mewn Nyrsio Iechyd y Cyhoedd Arbenigol yn y Gymuned bu’n gweithio fel Ymwelydd Iechyd yng Nghaerdydd am 10 mlynedd.
 

Gillian Morse

Uwch Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd
Mae gan Gillian BSc (Anrh) mewn Iechyd yr Amgylchedd ac mae hi’n Swyddog Iechyd yr Amgylchedd gweithredol, sy’n arbenigo mewn Diogelu Iechyd ar hyn o bryd. Mae hi wedi gweithio ym maes Llywodraeth Leol ers dros 20 mlynedd, mewn amrywiaeth o rolau swyddog ac uwch rolau.
Mae gan Gillian brofiad o ymarfer o fewn disgyblaethau iechyd amgylcheddol amrywiol gan gynnwys diogelwch bwyd, clefydau trosglwyddadwy, iechyd a diogelwch, a thai. Dechreuodd Gillian rôl ran-amser gyda Thîm Iechyd y Cyhoedd Lleol ym mis Gorffennaf 2024, ar ôl cwblhau gradd Meistr mewn Iechyd y Cyhoedd o Brifysgol Caerdydd ym mis Mawrth 2024.

Kate Roberts

Uwch Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd
Mae Kate wedi gweithio mewn nifer o rolau iechyd y cyhoedd yng Nghymru a Lloegr. Dechreuodd ei gyrfa yn gweithio gyda theuluoedd â phlant ifanc mewn ardaloedd Cychwyn Cadarn yn Lloegr ac ar ôl cwblhau ei gradd mewn Iechyd a Datblygu Cymunedol, bu’n gweithio yn y trydydd sector ac mewn timau iechyd y cyhoedd lleol ar brosiectau gwella iechyd.
Cwblhaodd ei MSc mewn Iechyd y Cyhoedd yn 2014 ar ôl cyflwyno ei thraethawd hir fel rhan o brosiect ymchwil ansoddol ar blant ifanc a chanfyddiadau ynghylch gofal iechyd y geg. Ymunodd â thîm Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a’r Fro yn 2018 ac mae bellach yn gweithio ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys elfennau o’r cynllun Bwyd a Symud Da, alcohol a Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif.

Martha Powell

Uwch Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd

Dechreuodd Martha ei gyrfa ym maes iechyd y cyhoedd pan ymunodd â’r tîm fel Ymarferydd Arbenigol Camddefnyddio Sylweddau ym mis Mehefin 2015 fel aelod o’r Tîm Addysg Camddefnyddio Sylweddau amlddisgyblaethol unigryw, Switched On.

Dros y blynyddoedd mae hi wedi gweithio ochr yn ochr â’r poblogaethau lleol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg ar sawl maes iechyd a lles gwahanol gan gynnwys alcohol, imiwneiddio, atal achosion o gwympo, gweithgarwch corfforol a MECC.
Mae hi’n angerddol am wneud gwahaniaeth i fywydau pobl, gan wella canlyniadau iechyd a lles i bawb er mwyn eu galluogi i fod y gorau y gallant fod.

Ers mis Awst 2022, mae Martha wedi bod yn gweithio’n fwy penodol ar adeiladu’r Dull System Gyfan tuag at Bwysau Iach, gan alinio ein dull Fframwaith Bwyd a Symud Da lleol â’r dull strategol cenedlaethol, Pwysau Iach Cymru Iach.
Mae gan Martha BSc mewn Seicoleg ac MSc mewn Seicoleg Iechyd, ac mae hefyd wedi mynd ymlaen i gwblhau portffolio UKPHR a arweiniodd ati’n dod yn Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd cofrestredig ym mis Medi 2021.

Ym mis Hydref 2023, enillodd Martha wobr UKPHR am Wella Ymarfer Iechyd y Cyhoedd i Leihau Anghydraddoldebau Iechyd, trwy’r gwaith cydweithredol ar y prosiect animeiddio symud NewidCyflym.

 

 

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni