Neidio i'r prif gynnwy

Staff Eraill Iechyd Cyhoeddus

Athira Premachandran

Athira Premachandran

Swyddog Cymorth Rhaglenni

 

Ymunodd Athira â'r Tîm Iechyd Cyhoeddus Lleol ym mis Mawrth 2025 ac mae'n cefnogi'r gwaith o gyflawni portffolios Imiwneiddio a Diogelu Iechyd. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar feithrin cydweithredu ac ymgysylltu â chymunedau i gefnogi mynediad cyfartal i wasanaethau. Mae hi'n dibynnu ar dystiolaeth a dealltwriaeth gymunedol i lywio ei gwaith ac mae’n dod â phrofiad amlieithog sy'n cefnogi ymgysylltu cynhwysol â chymunedau amrywiol.

Cwblhaodd ei MSc mewn Iechyd Cyhoeddus yn 2023 ac mae'n ffisiotherapydd cofrestredig. Mae Athira wedi gweithio'n rhyngwladol mewn lleoliadau cymunedol a chlinigol, gan ddod â phrofiad o faes ymchwil, ymarfer niwrolegol a chyhyrysgerbydol, ac adsefydlu cymunedol. 

Mae ganddi ddiddordeb cryf mewn ymagwedd systemau cyfan at ofal ataliol a lleihau anghydraddoldebau iechyd

Cat Siviter

Swyddog Cymorth Prosiect Bwyd y Fro

Ymunodd Cat Siviter â thîm Bwyd y Fro yn 2023 ac mae'n cefnogi’r gwaith o gyflwyno’r Rhaglen Lleoedd Bwyd Cynaliadwy ym Mro Morgannwg. Mae’n cydlynu Gweithgor Ansicrwydd Bwyd y Fro, gan weithio ar y cyd i fynd i'r afael ag ansicrwydd bwyd yn lleol. Gyda phrofiad ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat, mae Cat yn dod â chefndir cryf mewn bwyd a maeth. Mae ganddi angerdd tuag at goginio ac mae wedi ymrwymo i hyrwyddo llythrennedd bwyd ymarferol mewn cymunedau lleol. 

Daniel Levy

Prif Ddadansoddwr

 

Ymunodd Dan â'r tîm iechyd cyhoeddus lleol ym mis Ionawr 2025.

Mae wedi gweithio a gwirfoddoli mewn rolau amrywiol o Gymdeithas Gastroberfeddol Canada, i'r Academi Gwyddorau Meddygol yn Llundain.

Dechreuodd wirfoddoli gyda'r GIG yn ystod pandemig Covid-19, ac ers hynny bu’n gweithio mewn rolau sy'n canolbwyntio ar ddata o fewn y GIG. Mae'r rhain wedi amrywio o reoli data ymchwil oncoleg bediatrig ar y ward, i beirianneg data, dadansoddeg, a datblygu dangosfwrdd o fewn maes Gwybodaeth Busnes.

Dyfarnwyd PhD i Dan mewn imiwnoleg clefyd Parkinson o Brifysgol Caergrawnt yn 2018 lle mae ganddo MRes hefyd, ac mae ganddo radd mewn Biocemeg o Goleg Imperial Llundain.

Eno Usoroh

Swyddog Cymorth Rhaglenni

 

Ymunodd Eno â'r tîm iechyd cyhoeddus lleol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ym mis Hydref 2024 fel Swyddog Cymorth Rhaglenni. Cyn ymuno â'r GIG, gweithiodd Eno gyda gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl BAME, sefydliad nid-er-elw yn Abertawe sy'n canolbwyntio ar feithrin lles meddwl yn y gymuned Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol drwy addysg dargedig, eiriolaeth a chyfeirio i ofal pellach.

Mae Eno yn raddedig meddygol rhyngwladol, gyda phrofiad mewn hyrwyddo iechyd, diogelu iechyd, cyllido gofal iechyd, a rheoli clefydau, a gafwyd yn ystod ei gwaith yn Nigeria a gwledydd eraill yn Affrica. Mae ganddi radd Meistr mewn Iechyd Cyhoeddus ac MSc mewn Gwybodeg Iechyd a gwblhawyd yn ddiweddar o Brifysgol Abertawe hefyd, sy'n rhoi’r wybodaeth a'r sgiliau iddi lywio tirwedd amlsector ac amlasiantaethol iechyd cyhoeddus.

Mae Eno yn awyddus i ddefnyddio ei sgiliau a'i phrofiad i weithredu gweledigaeth ac amcanion strategol y tîm, gyda'r nod o gyflawni'r canlyniadau gorau posibl i'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.

Louise Denham

Cydlynydd Bwyd y Fro

 

Ymunodd Louise â'r tîm yn 2020 fel cydlynydd Bwyd y Fro – partneriaeth bwyd cynaliadwy Bro Morgannwg.

Gan weithio gyda phartneriaid amrywiol a thrwy'r fframwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, mae'n cydlynu gweithredu i adeiladu system fwyd leol ffyniannus, iach a chynaliadwy gan ddefnyddio dulliau seiliedig ar le.

Mae ganddi gefndir yn gweithio mewn cadwyni cyflenwi bwyd cynaliadwy a theithio cynaliadwy, o safbwynt cymunedol a busnes.

Cwblhaodd Louise MSc mewn Datblygu Cynaliadwy mewn Ymarfer o Brifysgol Gorllewin Lloegr, ac mae'n angerddol ynghylch cymhwyso hyn i greu amgylcheddau bwyd cynhwysol, iach sy'n meithrin cariad at fwyd da.

Patrick Collins-Walsh

Rheolwr Rhaglen Iechyd y Cyhoedd

Ymunodd Patrick â'r Tîm Iechyd Cyhoeddus Lleol ym mis Gorffennaf 2025, gan ddod â chyfoeth o brofiad gydag ef o wahanol rolau ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae ei gefndir yn cwmpasu rheoli busnes, cyflawni prosiectau a rhaglenni, yn ogystal â gwella ac arloesi. Yn ddiweddar, cwblhaodd Patrick MSc mewn Arwain Trawsnewid Digidol ac ar hyn o bryd mae'n cwblhau ei gymhwyster ILM Lefel 7. O fewn y tîm, mae'n cyfrannu at y Rhaglen Bwyd Da a Symud ac yn cefnogi gwaith ar draws y portffolio Atal a Blynyddoedd Cynnar.

 

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni