Catherine Perry
Prif Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd, yn arwain ar waith sy'n gysylltiedig â thybaco Dechreuodd Catherine yn ei swydd bresennol ym mis Chwefror 2024, yn dilyn cyfnod o 11 mlynedd yn arwain y Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy, a'r Cynllun Ysgolion Iach ym Mro Morganwg. Yn dilyn gradd mewn Addysg a Seicoleg o Brifysgol Lancaster a gradd meistr mewn Iechyd y Cyhoedd o Brifysgol Caerdydd, dechreuodd Catherine ei gyrfa ym maes iechyd y cyhoedd yn Ne Cymru. Ar ôl symud i Lundain a chyflawni rolau gwella iechyd yn Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol Bromley, dychwelodd Catherine i Gymru ac mae hi wedi bod yn gweithio yn Nhîm Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a'r Fro ers 12 mlynedd. Mae hi wedi'i chofrestru gyda Chofrestr Iechyd y Cyhoedd y Deyrnas Unedig fel ymarferydd ac mae hefyd yn asesydd ar gyfer Cynllun Cofrestru Ymarferwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru. |
Emma Davies-McIntosh
Prif Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd Dechreuodd Emma gyda'r tîm fel Prif Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd ym mis Chwefror 2025 gan arwain ar imiwneiddio plant a chynllunio gofodol. Mae Emma wedi gweithio mewn gwasanaethau cyhoeddus ers dros 20 mlynedd, gan gynnwys gyda timau iechyd y cyhoedd lleol, awdurdodau lleol a'r sector gwirfoddol. Ers 2013 mae ei gwaith wedi canolbwyntio ar hwyluso cydweithio ar gyfer ymyrraeth gynnar, atal a gweithio yn seiliedig ar le. Mae hi wedi rheoli mentrau presgripsiynu cymdeithasol ac wedi datblygu partneriaethau i fynd i'r afael â rhai o'n heriau mwyaf cymhleth, gan gynnwys lliniaru effeithiau diwygio lles. Cwblhaodd ei MSc mewn Iechyd y Cyhoedd Cymhwysol yn 2024 ac mae'n ymarferydd iechyd y cyhoedd cofrestredig. Mae hi'n angerddol dros ddeall a mynd i'r afael â phenderfynyddion cymdeithasol ehangach iechyd a lleihau anghydraddoldebau iechyd. |
Lauren Idowu
Prif Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd Mae Lauren wedi bod yn Brif Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd yn y tîm ers 2019, ac mae'n arwain ar ddau bwnc: gweithgarwch corfforol; ac alcohol. Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad yn gweithio mewn ystod o rolau a phynciau ym maes iechyd y cyhoedd ar draws y GIG a’r awdurdod lleol. Cwblhaodd Lauren ei gradd Meistr gyntaf mewn Maeth, Gweithgarwch Corfforol ac Iechyd y Cyhoedd ym Mhrifysgol Bryste, a gradd Meistr dilynol mewn Iechyd y Cyhoedd ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr (UWE). Mae Lauren yn angerddol am sawl agwedd ar iechyd y cyhoedd, yn arbennig: ymagwedd system gyfan a sut rydym yn creu newid; sicrhau bod y gwaith yn cael ei yrru gan y data a dealltwriaeth glir o'r hyn y mae'n ei ddweud wrthym; gweithio i leihau anghydraddoldebau trwy sicrhau bod gwaith yn targedu'r rhai sydd â'r angen mwyaf; a newid y ffocws tuag at atal ar lefel poblogaeth. Mae Lauren yn ffynnu ar weithio ar y cyd ag ystod o bartneriaid, o rhai lleol i rai cenedlaethol. |
Rebecca Lewis
Rôl: Prif Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd Rôlau a gyflawnwyd: Cyswllt Tîm Iechyd y Cyhoedd â Gofal Sylfaenol. Cynrychiolydd Iechyd y Cyhoedd yng nghlystyrau Dinas a De Caerdydd, Dwyrain Caerdydd a De-ddwyrain Caerdydd.
Ymunodd Rebecca â'r tîm ym mis Awst 2024 ac mae'n canolbwyntio ar gefnogi'r agenda iechyd y cyhoedd ar draws Gofal Sylfaenol, gan gefnogi gwaith clwstwr a phresgripsiynu cymdeithasol yn benodol. Mae hi hefyd yn cefnogi'r agenda Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed a'r gwaith Cyfathrebu. Mae Rebecca wedi gweithio ym maes Iechyd y Cyhoedd ers 20 mlynedd mewn amryw rolau a rhwng timau ledled De-ddwyrain Cymru yn ogystal â threulio peth amser yn gweithio yn Swydd Rydychen, gyda phortffolios gwaith blaenorol yn cynnwys: trwyddedu alcohol, iechyd rhywiol, diogelu iechyd, iechyd y geg, gyda brwdfrydedd penodol dros reoli tybaco a gweithio i leihau nifer y bobl sy’n smygu. Yn ystod y cyfnod hwn, mae hi wedi cwblhau ei gradd Meistr mewn Iechyd y Cyhoedd ym Mhrifysgol Caerdydd. |
Rebecca Stewart
Prif Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd Ymunodd Rebecca â Thîm Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a'r Fro ym mis Tachwedd 2020 fel Prif Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd. Ar hyn o bryd mae rôl Rebecca yn canolbwyntio ar ein dull system gyfan leol tuag at bwysau iach. Mae Rebecca wedi gweithio yn y GIG yng Nghymru am fwy nag 20 mlynedd mewn amrywiaeth o rolau ac ar draws timau iechyd y cyhoedd eraill sy'n canolbwyntio ar, datblygu iechyd cymunedol, ysgolion iach, bwyd, maeth a phwysau iach. Cwblhaodd Rebecca ei gradd meistr mewn Iechyd y Cyhoedd a Hyrwyddo Iechyd o Brifysgol Abertawe yn 2012 ac mae ganddi hefyd BSc (Anrh) mewn Maeth Dynol Cymhwysol yn ogystal â TAR (PCET).
|
Rhianon Urquhart
Mae Rhianon yn Brif Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd, yn arwain ar bartneriaethau’r Blynyddoedd Cynnar, Ysgolion Iach a bwyd Mae gan Rhianon radd israddedig mewn Seicoleg Gymhwysol o Brifysgol Caerdydd a chwblhaodd ei gradd meistr mewn Hybu Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe yn 2005. Mae gan Rhianon bron i 30 mlynedd o brofiad mewn hybu iechyd/iechyd y cyhoedd, wedi dechrau ei gyrfa gyda Heartbeat Wales a Hybu Iechyd Cymru ac mae hefyd wedi gweithio yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn arwain eu Tîm Gwella Iechyd, cyn ymuno â'r tîm ym mis Ionawr 2015 ac mae wedi canolbwyntio ar Bwyd y Fro, Ysgolion Iach a Chyn-ysgolion a'r safonau bwyta'n iach o fewn y BIP. |