Mae’r cynllun Symud Mwy, Bwyta’n Iach wedi’i ddatblygu i ysbrydoli unigolion a sefydliadau i wneud newidiadau cadarnhaol, gan greu mudiad cymdeithasol ar gyfer gwell iechyd a llesiant ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.
Er mwyn mynd i’r afael â gordewdra a helpu pobl i gyflawni pwysau iach, rydym yn cydnabod bod angen i gamau gweithredu gael eu blaenoriaethu a’u hymgorffori ym mhopeth a wnawn fel partneriaeth, o fewn sefydliadau, gan gyflogwyr yn ogystal ag unigolion.
Wedi’i lansio ym mis Gorffennaf 2020, mae’r Cynllun wedi dod â phartneriaethau ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg ynghyd, gan gynnwys y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd a Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg. Gyda’i gilydd, addawodd y partneriaethau gyflawni’r weledigaeth: Ein gweledigaeth yw y bydd pobl Caerdydd a Bro Morgannwg yn symud mwy ac yn bwyta’n iach drwy gydweithio ar draws ystod o flaenoriaethau a nodwyd.
Mae gweithredu’r cynllun yn cael ei arwain gan lawer o wahanol bartneriaid, ac mae'n cynnwys cymunedau lleol. Mae'r cynllun Symud Mwy, Bwyta'n Iach yn cyd-fynd â strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach Llywodraeth Cymru sy’n nodi camau gweithredu yn ôl ei phedair thema:
· Amgylcheddau Iechyd
· Lleoliadau Iach
· Pobl Iach
· Arwain a Galluogi Newid
Fel rhan o’r ymagwedd genedlaethol at Arwain a Galluogi Newid a thrwy Symud Mwy, Bwyta’n Iach, mae’r tîm yn datblygu’r Dull System Gyfan o Bwysau Iach yng Nghymru ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg.
Dysgwch ragor am y cynllun Symud Mwy, Bwyta'n Iach yma.
Mentrau prosiect cyfredol
Drwy ein proses ymgysylltu ar gyfer Symud Mwy, Bwyta’n Iach, gwnaethom nodi 10 maes blaenoriaeth ar gyfer gweithredu sy’n amlygu sut y gallwn greu’r amodau cywir i alluogi pobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg i fod yn fwy egnïol yn gorfforol ac i fwyta’n iach.
Ynghyd â'n partneriaid, rydym wedi addo er enghraifft; gwella a hyrwyddo’r cynnig bwyd a gweithgarwch corfforol yn ein lleoliadau addysgol a’n gweithleoedd, creu diwylliant ac amgylchedd sy’n cefnogi teithio llesol, hysbysu ein gweithlu a’n poblogaeth, a chefnogi ein cymunedau i fod yn iachach.
Darllenwch am y 10 maes blaenoriaeth Symud Mwy, Bwyta'n Iach yma.
Cyfeirio a chyngor
Mae ein gwefan Symud Mwy, Bwyta'n Iach yn cynnwys gwybodaeth am ystod eang o adnoddau yn ogystal â gwybodaeth am bartneriaid ac astudiaethau achos i gefnogi gweithredu ar bwysau iach.
Gellir dod o hyd i gyngor pellach isod:
Amgylcheddau Cynaliadwy ac Iach
Manylion cyswllt
E-bost: movemoreeatwell@wales.nhs.uk
Twitter: @mmewcav