Mae bod yn gorfforol egnïol yn helpu i gynnal llesiant corfforol a meddyliol, ac yn atal afiechyd. Gall leihau'r risg o lawer o gyflyrau cronig, fel clefyd coronaidd y galon, strôc, diabetes math 2, canser, gordewdra, problemau iechyd meddwl a chyflyrau cyhyrysgerbydol. Dyma’r “cyffur gwyrthiol” yr hoffai’r GIG ei ragnodi i bawb. Mae ffigurau Sefydliad Iechyd y Byd yn dangos bod anweithgarwch corfforol yn cyfrif am amcangyfrif o 9% o farwolaethau cynamserol.
Mae argymhellion y Prif Swyddog Meddygol yn nodi y dylai oedolion anelu at fod yn egnïol bob dydd. Dros wythnos, dylai gweithgaredd fod yn gyfanswm o o leiaf 150 munud (2½ awr) o weithgaredd cymedrol mewn pyliau o 10 munud neu fwy, a dylai pawb leihau faint o amser a dreulir yn eistedd neu'n segur.
Nid yw dros 40% o oedolion Caerdydd a’r Fro yn gwneud digon o weithgarwch corfforol rheolaidd, gan gynnwys bron i draean (30%) sy’n cael eu hystyried yn ‘anweithgar’, sy’n cymryd rhan mewn llai na hanner awr o weithgarwch corfforol bob wythnos. Mae gweithgaredd corfforol yn hybu iechyd cardiofasgwlaidd a lles meddyliol.
"A yw bod yn fwy gweithgar o ddiddordeb i chi?"
Cyfeiriwch y cleient at: