Mae bod yn egnïol yn helpu i leihau a chynnal pwysau, yn lleihau straen ac yn codi hwyliau, yn cryfhau esgyrn a chyhyrau ac yn lleihau'r risg o ddatblygu cyflyrau a chlefydau cronig, gan gynnwys pwysedd gwaed uchel, clefyd y galon, diabetes a strôc. Gweler y ddogfen Gweithgaredd Corfforol - Canllawiau a Gwybodaeth am fwy o fanylion.
Mae bod yn egnïol yn golygu codi curiad y galon, teimlo'n gynhesach (hyd yn oed torri i chwys ysgafn) a gwneud i'r ysgyfaint weithio'n galetach.
Dylai oedolion anelu at o leiaf 150 munud o weithgaredd cymedrol i egnïol bob wythnos yn cynnwys rywfaint o weithgaredd corfforol bob dydd am gyfnodau o 10 munud a mwy.
Dylai plant a phobl ifanc geisio gwneud oddeutu 60 munud neu fwy o weithgaredd cymedrol i egnïol bob wythnos.
Edrychwch ar ein mapiau cerdded i'n safleoedd ysbytai a chymunedol!
Mae bob 10 munud yn cyfrif!
Ceisiwch fod yn egnïol bob dydd mewn talpiau o 10, 20 neu 30 munud, os yw'n haws.
Atal Cwympo ALLS Atal Cwympo
Mae Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC) yn ddull o newid ymddygiad sy'n defnyddio'r miliynau o weithgareddau rhyngweithio o ddydd i ddydd y mae sefydliadau ac unigolion yn eu cael â phobl eraill i'w cefnogi a'u grymuso i wneud newidiadau cadarnhaol i'w hiechyd a'u llesiant corfforol a meddyliol. Mae gweithgaredd corfforol yn rhan bwysig o'r sgwrs hon ac mae'n hanfodol i gynnal bywyd hapus ac iach; edrychwch ar wefan MECC i ganfod mwy.
Gwybodaeth gyswllt
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.