Neidio i'r prif gynnwy

Mae tîm iechyd cyhoeddus Caerdydd a'r Fro yn dîm amlddisgyblaethol gyda staff yn cael eu cyflogi a'u hariannu gan amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (BIP).

Nod y tîm, gan weithio gyda phartneriaid statudol a'r trydydd sector, yw nodi a mynd i'r afael â materion iechyd cyfredol y boblogaeth a rhai i'r dyfodol, gan wella iechyd a lleihau anghydraddoldebau iechyd ymhlith preswylwyr a chymunedau yn ein hardal.

Rydym yn gweithio'n agos gyda phartneriaid statudol a'r trydydd sector yn ein hardal i gyflenwi gweithredu cydgysylltiedig ar iechyd y boblogaeth.

Rydym yn gweithio ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg, gan gwmpasu poblogaeth o bron i 500,000.

Darganfyddwch fwy am ein gwaith yng Nghynllun Iechyd Cyhoeddus Caerdydd a'r Fro 2019-22

Darllenwch fwy am ein blaenoriaethau yn Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Caerdydd a Bro Morgannwg, 2020

Mae gwaith y tîm Iechyd Cyhoeddus yn cyd-fynd â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Darllenwch fwy am y Ddeddf yma.

Darllenwch fwy am ein dull cydweithredol o annog pobl Caerdydd a Bro Morgannwg i Symud Mwy a Bwyta'n Dda.

Cliciwch yma i weld Adroddiadau Blynyddol a Chynlluniau Iechyd Lleol blaenorol.