Neidio i'r prif gynnwy

Cyrraedd Yma a Pharcio

Cliciwch ar un o'r ysbytai isod i weld y gwahanol ffyrdd y gallwch deithio, a dod o hyd i wybodaeth am barcio.

 

Cludiant i Gleifion

Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn darparu Gwasanaeth Cludo Cleifion Mewn Achosion Nad Ydynt yn Rhai Brys i gleifion na allant, am resymau meddygol, wneud eu trefniadau eu hunain i deithio i'w hapwyntiadau ysbyty ac yn ôl adref.

Mae'n adnodd hanfodol i helpu'r cleifion hynny sy'n dibynnu ar y gwasanaeth ac ni ddylai gael ei ddefnyddio gan y rhai sydd heb angen meddygol.

Sylwch nad yw’r ffaith bod angen triniaeth arnoch yn golygu bod angen cludiant arnoch o reidrwydd. Mae yna broses gymhwysedd y mae'n ofynnol i bob claf ei chyflawni i sicrhau bod eich anghenion yn briodol ar gyfer y gwasanaeth.

Ar gyfer cleifion nad ydynt yn gymwys, mae Tîm Cludiant Amgen sy'n gallu trafod opsiynau cludiant yn eich ardal chi.

 

Gallech fod yn gymwys i gael cludiant i'r ysbyty os:

  • Rydych yn derbyn dialysis rheolaidd neu driniaeth canser
  • Mae angen stretsier arnoch ar gyfer y daith
  • Mae angen ocsigen arnoch ar gyfer y daith 
  • Mae angen i chi deithio yn eich cadair olwyn eich hun
  • Ni allwch gerdded heb gefnogaeth barhaus 
  • Ni allwch ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus am fod gennych gyflwr meddygol a fyddai'n peryglu eich urddas
  • Mae gennych anawsterau cyfathrebu difrifol neu;  
  • Byddwch yn profi sgil-effeithiau o ganlyniad i'r driniaeth ar gyfer eich cyflwr.

 

Canslo Cludiant

Mae hyd at 100,000 o deithiau gan y Gwasanaeth Cludo Cleifion Mewn Achosion Nad Ydynt yn Rhai Brys bob blwyddyn yn cynnwys achosion lle nad yw'r claf yn teithio neu nad yw yn y man casglu pan fydd ein criwiau'n cyrraedd.  Mae canslo cludiant, os nad oes ei angen mwyach, yn bwysig iawn ac mae'n caniatáu i'r Gwasanaeth Cludo Cleifion Mewn Achosion Nad Ydynt yn Rhai Brys gynnig y daith i glaf arall.

Os ydych yn gymwys ac yn trefnu cludiant ond bod angen i chi ganslo, ffoniwch y rhif isod neu ewch i'w gwefan.

Am fwy o wybodaeth ewch i www.ambulance.wales.nhs.uk neu ffoniwch 0300 123 2303.

 

Dilynwch ni