Neidio i'r prif gynnwy

Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau yn electronig

Rydym yn paratoi i gyflwyno system ddigidol newydd gyffrous ar gyfer rhagnodi a rhoi meddyginiaeth o’r enw Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau yn electronig (ePMA).

Mae ePMA yn rhan allweddol o’r Portffolio Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol, sy’n anelu at wneud y gwaith o ragnodi, dosbarthu a gweinyddu meddyginiaethau ym mhobman yng Nghymru yn haws, yn fwy diogel, yn fwy effeithlon ac effeithiol, ar gyfer cleifion a chlinigwyr.

Bydd y broses gyflwyno yn dechrau yn gynnar yn 2025.

 

Beth yw rhagnodi a gweinyddu meddyginiaethau yn electronig (ePMA)?  

Mae ePMA yn system ddigidol a fydd yn cymryd lle siartiau cyffuriau papur. Bydd y system newydd yn galluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ragnodi a gweinyddu meddyginiaethau.  

Mae defnyddio dyfeisiau electronig yn lle siartiau papur yn gwneud y broses rhagnodi a gweinyddu yn fwy diogel ac yn haws i gleifion a staff.  

Ochr yn ochr â gwella diogelwch cleifion, bydd ePMA yn lleihau gwastraff ac yn gwella effeithlonrwydd y gofal a ddarparwn ar draws safleoedd ein Bwrdd Iechyd.  

Pwy sydd wedi datblygu'r system?  

Mae tîm amlddisgyblaethol, sy'n cynnwys fferyllwyr, nyrsys, meddygon a staff digidol sydd i gyd yn ymwneud â dylunio a chynllunio'r system i sicrhau ei bod yn gweithio i bob defnyddiwr.   

Rydym wedi gweithio gyda darparwr meddalwedd allanol, Nervecentre i ddatblygu'r feddalwedd.  

Mae meddalwedd ePMA Nervecentre hefyd yn cael ei defnyddio gan sefydliadau GIG eraill, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIP CTM), Ysbytai Prifysgol Caerlŷr ac Ysbytai Prifysgol Nottingham.  

A fydd hyn yn newid sut mae fy ngofal yn cael ei ddarparu?  

Byddwch yn gweld staff ysbytai yn defnyddio dyfeisiau digidol yn lle siartiau papur wrth ddarparu gofal i chi ond ni ddylai hyn effeithio ar eich gofal a'ch profiad yn y ward.   

Cofiwch y gallwch ofyn i staff ar y ward os oes gennych unrhyw gwestiynau am ePMA  

Sut fyddaf yn gwybod a yw ePMA yn fyw ar fy ward?  

Fe welwch staff ysbytai yn defnyddio dyfeisiau digidol, fel ffonau, gliniaduron ac iPads.   

Efallai y byddwch hefyd yn gweld posteri melyn gyda gwybodaeth ePMA ar waliau o amgylch eich ward, neu efallai y cewch gynnig taflen gyda mwy o wybodaeth.  

Fe'ch anogir i ofyn i staff ar y ward am ePMA.   

Pam nad oes gan y ward rydw i arni ePMA eto?  

Mae'r broses gyflwyno yn raddol ac yn gofyn am dechnoleg wedi'i diweddaru, hyfforddi staff, a'r TG cywir (meddalwedd a dyfeisiau digidol) =- mae hyn yn golygu y bydd rhai wardiau yn dod ar-lein cyn eraill.  

Mae cyflwyno cam wrth gam yn helpu i sicrhau y gallwn reoli cynnydd, dysgu gwersi a nodi arfer gorau wrth i ni symud ymlaen.  

 

  

Technoleg a'ch Gwybodaeth  

Pa dechnoleg sydd dan sylw?  

Byddwn yn darparu dyfeisiau digidol newydd i wardiau i ddarparu ePMA.   

Mae hyn yn cynnwys ffonau symudol, gliniaduron, cyfrifiaduron ac iPads.  

Rydym yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr clinigol a TG i sicrhau bod gennym yr offer mwyaf priodol ar gyfer pob lleoliad yn unigol a byddwn yn ystyried anghenion y gwasanaeth, y staff a'r cleifion.  

A yw fy ngwybodaeth yn ddiogel?   

 Mae’r feddalwedd yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf ac mae’n unol â pholisïau diogelwch gwybodaeth cryf sydd ar waith ar draws GIG Cymru.    

More info requested here from Pharmacy team for this q.   

Mae’r system ePMA wedi’i hadolygu gan ein timau Seiberddiogelwch a Llywodraethu Gwybodaeth i sicrhau bod gwybodaeth mor ddiogel â phosibl.  

  

Diogelwch Cleifion  

Beth sy'n digwydd os aiff y system i lawr?  

Mae gennym brosesau wrth gefn ar waith rhag ofn y bydd gwallau gyda'r system. Diogelwch cleifion yw ein blaenoriaeth. Mae dyfeisiau penodol yn sicrhau bod gwybodaeth wrth gefn yn cael ei chadw'n ddiogel fel bod staff yn gallu cael mynediad at siartiau cyffuriau waeth beth fo'r sefyllfa.  

Beth os caf fy nhrosglwyddo o ward neu ysbyty gwahanol heb ragnodi electronig?  

Mae polisïau ar waith i amddiffyn ein cleifion yn y sefyllfaoedd gwahanol hyn.  

Os byddwch yn symud o ward neu ysbyty heb ragnodi electronig, yna bydd siart wedi'i argraffu yn cael ei chynhyrchu a'ch cofnodion yn cael eu diweddaru yn unol â hynny.  

 

 

Pam ydym ni'n gweithredu ePMA?  

Mae llawer o fanteision i gael system ePMA effeithiol ar waith, gan gynnwys:  

  • Bydd ePMA yn rhoi mwy o amser i glinigwyr ddarparu gofal mwy diogel a mwy effeithlon i gleifion  

  • Bydd ePMA yn caniatáu rhagnodi o derfynellau o bell ar draws ein safleoedd yn ogystal ag ar wardiau wrth erchwyn gwelyau cleifion   

  • Mae data o ePMA yn darparu “llwybr archwilio cadarn” - mae cofnod digidol clir ar gyfer y broses rhagnodi a gweinyddu. Diogelu staff a chleifion  

  • Bydd ePMA yn helpu i sicrhau bod gwybodaeth yn gywir, yn gyfredol, ac ar gael yn rhwydd i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau clinigol, ac yn y pen draw i wella gofal cleifion.​​​  

  • Gall data yn yr ap fod yn ddefnyddiol i glinigwyr, gan gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau a darparu neges atgoffa i staff pan fydd hi’n amser rhoi dosau neu pan fyddant yn hwyr  

  • Mae ePMA yn cynnwys gwirio alergedd a rhyngweithio rhwng cyffuriau, a fydd yn lleihau gwallau meddyginiaeth.  

 

Dilynwch ni