Ar hyn o bryd, mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gontractau parcio preifat gyda ParkingEye.
Gweithredwyd y contractau hyn i reoli parcio ar dir yr ysbyty ac i sicrhau bod cleifion ac ymwelwyr yn gallu cyrchu'r safle yn ddiogel.
Yn anffodus, ni all y Bwrdd Iechyd ymyrryd mewn unrhyw Hysbysiadau Cosb Tâl Parcio (PCN) y mae claf neu ymwelydd wedi'u derbyn gan y cwmni preifat hwn. Rhaid i unrhyw apêl y mae'r gyrrwr yn dymuno ei chyflwyno fynd trwy'r broses a amlinellir ar gefn yr Hysbysiad Cosb Tâl Parcio.
Mae parcio yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Ysbyty Athrofaol Llandochau, Ysbyty'r Barri ac Ysbyty Dewi Sant yn cael ei redeg gan ParkingEye, a bydd angen i unrhyw docynnau a roddir am droseddau parcio fynd trwy broses apelio'r cwmni.
Ni all y Bwrdd Iechyd ymyrryd mewn unrhyw faterion parcio a godir gan staff. Dylid cyfeirio unrhyw gwynion neu apeliadau at y cwmni perthnasol i'w prosesu yn unol â hynny.