Mae Ffocws ar Adborth yn cynnig ffordd hygyrch i gleifion, teuluoedd ac aelodau'r gymuned roi adborth wyneb yn wyneb unwaith y mis mewn dau leoliad gwahanol ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.
Sut ydym ni'n casglu eich adborth wyneb yn wyneb?
Unwaith y mis, bydd aelodau'r Tîm Adborth mewn lleoliadau penodol yn Ysbyty Athrofaol Cymru neu Ysbyty Athrofaol Llandochau (gellir dod o hyd i'r dyddiadau ac amseroedd isod).
Os hoffech chi rannu eich profiadau o wasanaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wyneb yn wyneb, gall y Tîm Adborth eich cynorthwyo i lenwi arolwg.
Mae'r tîm yn defnyddio "Arolwg Profiad Pobl" Cymru Gyfan i sicrhau eu bod yn gofyn y cwestiynau iawn i bob person, bob tro.
Os byddai'n well gennych, gallwch gwblhau'r Arolwg Profiad Pobl ar-lein yn eich amser eich hun.
I gael mynediad i'r arolwg ar-lein cliciwch yma i gael mynediad i'r dudalen we.
Dyddiadau, amseroedd a lleoliadau Ffocws ar Adborth
Noder y gall y dyddiadau a'r amseroedd hyn newid, felly gwiriwch y dudalen hon ar y diwrnod yr hoffech ymweld.
Ysbyty Arthrofaol Cymru - Cyntedd
Dydd Iau 12 Chwefror 2026, 11:00-14:00
Ysbyty Arthrofaol Llandouchau
Dydd Mawrth 13 Ionawr 2026, 11:00-14:00