I gofrestru, gallwch naill ai gyflwyno ffurflen bapur i'r practis neu gofrestru ar-lein gan ddefnyddio CampusDoctor.
I gofrestru gyda phractis meddyg teulu, bydd arnoch angen:
Os hoffech gofrestru gyda meddyg teulu sy’n gallu siarad Cymraeg neu iaith arall, ewch i Ieithoedd a Siaredir gan Feddygon Teulu yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol ac wedi talu'r gordal iechyd mewnfudo am eich cyfnod presennol o ganiatâd mewnfudo, byddwch yn gymwys i gael triniaeth GIG am ddim ar yr un sail ag unrhyw un sy'n preswylio fel arfer yn y DU.
Mae'n rhaid i chi fod yn dilyn cwrs amser llawn sy'n para o leiaf chwe mis i fod yn gymwys.
I ddod o hyd i'ch practis meddyg teulu lleol, ewch i Gwasanaethau Gofal Sylfaenol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Mae cofrestru gyda phractis meddyg teulu yn agos at eich cyfeiriad yn ystod y tymor yn bwysig er mwyn sicrhau y gallwch gael mynediad at ofal iechyd a chyngor os oes ei angen arnoch tra eich bod yn y brifysgol.
Os ydych wedi cofrestru gyda phractis meddyg teulu yng Nghymru, byddwch hefyd yn gallu cael presgripsiynau a gwasanaethau GIG Cymru am ddim gan fferyllydd cymunedol lleol.
Os ydych chi'n rhiant sy'n fyfyriwr ac yn symud i Gaerdydd gyda'ch plentyn/plant, mae'n bwysig eu bod hefyd yn cofrestru gyda phractis meddyg teulu ger eich cyfeiriad yn ystod y tymor.
Os ydych chi'n rhiant, efallai y bydd y Salwch Plentyndod Cyffredin o ddefnydd i chi.
Os ydych chi'n mynd yn sâl neu os oes angen triniaeth feddygol arall arnoch pan fyddwch gartref neu ddim yn aros yn agos i'ch practis meddyg teulu ger y brifysgol, gallwch gysylltu â'ch practis agosaf i ofyn am driniaeth.
Efallai y byddant am eich cofrestru fel preswylydd dros dro, na fydd yn eich dadgofrestru yng Nghaerdydd.
Os oes gennych gyflwr hirdymor (cronig) fel diabetes, asthma neu epilepsi, mae'n bwysig eich bod yn cofrestru gyda phractis meddyg teulu yng Nghaerdydd cyn gynted â phosibl i sicrhau eich bod yn parhau i dderbyn y gofal sydd ei angen arnoch.
Wrth gofrestru gyda phractis meddyg teulu, dewch ag unrhyw hanes meddygol diweddar sy'n ymwneud ag alergeddau, meddyginiaeth, ystadegau hanfodol, dewisiadau ffordd o fyw neu unrhyw ddiagnosis neu driniaeth barhaus.
Cynghorir hefyd bod myfyrwyr newydd yn cysylltu â’u prifysgol ymlaen llaw os oes angen rhoi unrhyw addasiadau ar waith ar ôl cyrraedd.
Os ydych wedi cofrestru gyda phractis meddyg teulu yng Nghymru, mae gennych hawl i gael presgripsiynau GIG am ddim gan fferyllydd yng Nghymru.
Eich fferyllfa gymunedol leol ddylai fod eich pwynt cyswllt cyntaf i gael cyngor gofal iechyd a thriniaeth ar gyfer mân anhwylderau, fel peswch, annwyd, pen tost a dolur rhydd.
Gall eich fferyllfa gynnig cyngor, triniaeth ac ystod o wasanaethau clinigol am ddim y GIG heb yr angen i gysylltu â'ch meddyg teulu.
Mae'r gwasanaethau'n cynnwys:
Mae GIG 111 Cymru yn wasanaeth rhad ac am ddim, 24/7 sy'n cynnig cyngor a gwybodaeth am ofal iechyd.
Drwy ffonio 111, bydd swyddog galwadau yn asesu eich cyflwr ac yn eich helpu i gael y cymorth iawn, yn y lle iawn, y tro cyntaf.
Mae gwefan GIG 111 Cymru yn darparu ystod o wybodaeth am gyflyrau iechyd a salwch.
Dylech fynd i wefan GIG 111 Cymru fel man cychwyn os ydych yn teimlo’n sâl ac yn ansicr o’ch symptomau neu’n ansicr at bwy y dylech fynd i gael help.
Os oes angen cymorth iechyd meddwl brys arnoch, neu os nad ydych yn siŵr ble i droi i gael cyngor ac arweiniad ar eich iechyd meddwl, ffoniwch 111 a phwyswch 2.
Os yw'ch cyflwr yn frys ond nid yw'n peryglu bywyd, ffoniwch 111.
Mae'r Gwasanaeth Tu Allan i Oriau hefyd ar gael trwy 111 os oes angen gofal meddygol brys arnoch y tu allan i oriau ac na allwch aros nes bod eich practis meddyg teulu yn ailagor.
Mae'r Uned Achosion Brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru ar agor 24 awr y dydd, bob dydd, ac mae yno i asesu a thrin y rhai sydd angen gofal brys fwyaf.
Dylech ond fynychu'r Uned Achosion Brys os ydych chi:
Os yw eich cyflwr yn un brys, ond nid yw’n bygwth bywyd, ffoniwch 111 cyn mynd i’r Uned Achosion Brys.
Os oes angen cymorth iechyd meddwl brys arnoch, gallwch ffonio 111 a phwyso opsiwn 2.
Os hoffech gofrestru gyda deintydd y GIG yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, gallwch ymuno â'r Porth Mynediad Deintyddol.
Os ydych chi'n gymwys ac yn gwneud cais, cysylltir â chi pan fydd lle addas ar gael gyda deintydd y GIG yn eich ardal.
Byddwch yn ymwybodol bod rhestr aros o 2 flynedd ar hyn o bryd (Mehefin 2025).
Os ydych chi'n profi poen deintyddol ac wedi'ch cofrestru gyda phractis deintyddol lleol, dylech gysylltu â'ch deintydd i gael apwyntiad.
Os oes angen gofal deintyddol brys arnoch ac nad ydych wedi cofrestru gyda phractis deintyddol lleol, neu os oes angen gofal brys arnoch y tu allan i oriau, ffoniwch y Llinell Gymorth Ddeintyddol Frys ar 0300 10 20 247.
Mae optometrydd yno ar gyfer eich anghenion iechyd llygaid, fel problemau gyda'ch golwg, poen llygaid neu anaf.
I ddod o hyd i'ch optometrydd lleol, ewch i Gwasanaethau Gofal Sylfaenol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Os oes angen gofal llygaid brys arnoch neu os oes gennych broblem llygaid sy'n digwydd yn sydyn, cysylltwch â'ch optometrydd lleol ar unwaith.
Os bydd eich optometrydd yn penderfynu eich bod yn gymwys i gael Archwiliad am ddim ar gyfer Problemau Llygaid Brys, bydd yn rhad ac am ddim.
Os oes gennych lygaid sych a llid yr amrannau, efallai y bydd eich fferyllydd cymunedol yn gallu darparu triniaeth am ddim o dan y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin.
Os ydych chi'n profi pryder iechyd meddwl nad yw'n frys, eich practis meddyg teulu ddylai fod eich pwynt cyswllt cyntaf.
Os oes angen cymorth iechyd meddwl brys arnoch neu os nad ydych yn siŵr ble i droi i gael cyngor ac arweiniad ar eich iechyd meddwl, ffoniwch 111 a phwyswch 2.
Mae gwasanaethau iechyd meddwl a lles y brifysgol hefyd ar gael i fyfyrwyr.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y tudalennau gwe perthnasol: