Neidio i'r prif gynnwy

Lleihau amser yn yr ysbyty

Rydym yn deall y gall arhosiad yn yr ysbyty fod yn gyfnod llawn straen a phryder, ond byddwn yn cynnig cymorth a chyngor i chi a’ch teulu/gofalwyr drwy gydol eich arhosiad yn yr ysbyty.

 

Mae'n iawn gofyn pryd rydych chi'n mynd adref

Mae tîm y ward yn annog pob claf i ofyn cwestiynau am ei gynlluniau gofal a rhyddhau. O'r diwrnod y cewch eich derbyn fe'ch anogir i ofyn:

  • Beth ydych chi'n meddwl sy'n bod arnaf i?
  • Beth sy'n mynd i ddigwydd i fi heddiw?
  • Beth sydd ei angen er mwyn i fi gael mynd adref?
  • Pryd alla i fynd adref?
 

Sut allwch chi gefnogi eich adferiad a pharatoi ar gyfer rhyddhau

Gall aros yn yr ysbyty am fwy o amser nag sydd angen arwain at ddatgyflyru, sef dirywiad yng ngweithrediad y corff oherwydd nad ydych yn actif yn gorfforol. Mae symptomau datgyflyru yn cynnwys:

  • Colli annibyniaeth a chryfder y cyhyrau
  • Iselder
  • Treuliad gwael yn arwain at rwymedd
  • Dryswch
  • Colli hunanhyder

Rydych hefyd mewn perygl o ddatblygu haint sy'n gysylltiedig â Gofal Iechyd os byddwch yn aros yn yr ysbyty am fwy o amser nag sydd angen. Felly, bydd tîm y ward yn eich annog i Godi, Gwisgo, Symud i atal y risg o ddatgyflyru .

Byddwch yn cael eich annog i wisgo dillad dydd pan fyddwch yn yr ysbyty. Gofynnwch i deulu/gofalwyr ddod â chyflenwad bach i chi eu gwisgo neu siaradwch â thîm y ward os na allwch wneud hyn.

 

Sut rydym yn cynllunio ar gyfer eich rhyddhau

Yr ysbyty yw'r lle iawn i fod pan fydd gennych anghenion triniaeth a gofal penodol. Os nad oes angen gofal ysbyty arnoch mwyach, mae'n well o ran eich iechyd meddwl a chorfforol, eich bod yn parhau i wella gartref neu mewn lleoliad gofal sy'n gweddu orau i'ch anghenion.

Bydd tîm y ward yn dechrau cynllunio eich dyddiad rhyddhau pan gewch eich derbyn ac yn trafod rhywbeth a elwir yn D2RA (Rhyddhau i Wella ac Asesu).

Nod Rhyddhau i Wella ac Asesu yw eich helpu i adael yr ysbyty:

  • Cyn gynted â phosibl, pan na fydd angen triniaeth arnoch mewn gwely ysbyty mwyach
  • Gyda'r cyngor a chymorth priodol gan wasanaethau a fydd ar gael os bydd angen, cyn i chi adael yr ysbyty
  • Asesu pa ofal a chymorth y gallai fod eu hangen arnoch yn y dyfodol gartref. Gallai eich “cartref” fod mewn cartref gofal, eich cartref eich hun neu gartref perthynas neu ffrind

Os oes angen cymorth arnoch ar ôl i chi gael eich rhyddhau, bydd tîm y ward yn gweithio'n agos gyda chi ac yn cynnwys y Gwasanaeth Rhyddhau Integredig o'r Ysbyty a gweithwyr cymdeithasol os oes angen. Byddwn yn eich hysbysu ac yn eich cynnwys trwy gydol y broses hon.

Os nad ydych yn gallu dychwelyd adref ond wedi gwella o'ch salwch yna byddwch yn cael eich trosglwyddo i un o'n gwelyau nad ydynt yn acíwt, gall hyn fod yn un o'n hysbytai cymunedol. Bydd y trosglwyddiad hwn yn rhan o'ch llwybr gofal a bydd yn ofynnol i sicrhau bod gennym welyau ar gael i bobl sydd angen gofal ysbyty acíwt. Rhoddir gwybod i chi a'ch teulu cyn trosglwyddo, fodd bynnag, ni fyddwn yn ceisio cydsyniad na chaniatâd ar gyfer y parhad hwn yn eich taith ysbyty.

 

Sut rydym yn cynllunio ar gyfer eich rhyddhau

Pan fyddwn yn gwybod ar ba ddyddiad y mae eich triniaeth ysbyty yn debygol o fod wedi'i chwblhau, byddwn yn dweud wrthych beth yw'ch dyddiad rhyddhau neu drosglwyddo disgwyliedig a byddwn yn gwneud nodyn o hyn ar flaen y daflen hon. Byddwn yn cynnwys teulu yn y sgwrs hon os gofynnir i chi helpu gyda'ch rhyddhau adref. Mae'n bwysig eich bod yn ymwybodol o'ch dyddiad rhyddhau fel y gellir gwneud trefniadau angenrheidiol ymlaen llaw.

Gall y trefniadau hyn gynnwys:

  • Cludiant adref – disgwylir i gleifion drefnu eu cludiant eu hunain (cyn 10am)
  • Dillad ac esgidiau addas (os nad ydych eisoes yn eu defnyddio yn yr ysbyty)
  • Mynediad at allwedd i'ch eiddo neu rywun i'ch gadael i mewn

Rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl os gwelwch yn dda am unrhyw broblem yn y cartref y gallai fod angen ei datrys er mwyn atal unrhyw oedi cyn eich rhyddhau.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gofynnwch i unrhyw un o staff y ward sy'n gofalu amdanoch a fydd yn hapus i helpu.

Dilynwch ni