Neidio i'r prif gynnwy

MRSA

Staphylococcus 

Mae MRSA yn sefyll am: methicillin (M) resistant (R) Staphylococcus (S) aureus (A).

Mae'n amrywiaeth o germ cyffredin o'r enw Staphylococcus aureus. Mae'r germ hwn yn byw yn hollol ddiniwed ar y croen ac yn nhrwyn tua thraean y bobl. Mae'n fwy cyffredin ar groen sydd wedi torri - os oes gennych doriad, dolur, neu frech fel ecsema.

Disgrifir pobl sydd ag MRSA ar eu cyrff neu yn eu trwynau ond sydd ddim yn cael ei niweidio ganddo fel 'unigolion a wladychir'.

Gall MRSA achosi problemau pan fydd yn cael cyfle i fynd i mewn i'r corff. Mae hyn yn fwy tebygol o ddigwydd mewn pobl sydd eisoes yn sâl. Mae MRSA yn achosi crawniadau, cornwydydd, a gall heintio clwyfau - clwyfau damweiniol fel crafu'r croen a chlwyfau bwriadol fel y rhai a wneir ar gyfer 'drip' neu yn ystod llawdriniaeth.

Gelwir y rhain yn heintiau lleol. Yna gall hwn ledaenu i'r corff ac achosi heintiau difrifol fel septisemia (gwenwyn gwaed). Mae MRSA yn gallu gwrthsefyll methisilin (math o benisilin) ​​a rhai o'r cyffuriau eraill a ddefnyddir yn gyffredin i drin heintiau.

Gweler Taflen wybodaeth Llywodraeth Cymru am MRSA am fanylion pellach ac atebion i rai cwestiynau cyffredin.

Dilynwch ni