Mae gwefan GIG 111 Cymru yn darparu ystod o wybodaeth am gyflyrau iechyd a salwch, gwiriwr symptomau a chanllawiau ar bwy i gysylltu â nhw i gael y gofal iawn, y tro cyntaf.
Mae’r wefan hefyd yn darparu gwybodaeth fanwl am wasanaethau gofal iechyd lleol, yn ogystal â darparu cyngor ar ffordd o fyw.
Dylech fynd i wefan GIG 111 Cymru fel man cychwyn os ydych yn teimlo’n sâl ac yn ansicr o’ch symptomau neu’n ansicr at bwy y dylech fynd i gael help.