Neidio i'r prif gynnwy

Gwrando ar Bobl

Sut i godi pryder am y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru

Mae’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn ceisio darparu’r gofal a’r driniaeth orau bob amser.  Ond weithiau, efallai na fydd pethau'n mynd cystal â'r disgwyl. Pan fydd hynny'n digwydd, dylech godi eich pryderon gyda'r staff oedd yn ymwneud â'ch gofal neu driniaeth, er mwyn iddyn nhw edrych i weld beth allai fod wedi mynd o'i le a cheisio datrys y mater. Yn GIG Cymru mae hyn yn cael ei wneud drwy broses o'r enw Gwrando ar Bobl.

Beth yw'r broses Gwrando ar Bobl?

Gwrando ar Bobl yw'r dull cenedlaethol o ddelio â chwynion, digwyddiadau a gwneud iawn yn GIG Cymru. Ei nod yw ei gwneud yn hawdd i chi rannu eich profiadau, gan sicrhau eich bod yn cael eich trin ag urddas, tegwch, cydymdeimlad a pharch ar bob cam.

Canllawiau

https://www.llyw.cymru/gwrando-ar-bobl-proses-cwynion-digwyddiadau-ac-iawn-gig-cymru

bipcaf.gig.cymru/files/concerns-complaints-and-compliments/listening-to-people-leaflet-cy/

Manylion Cyswllt

Mae'r Swyddfa Bryderon ar agor ar yr amseroedd canlynol:

Dydd Llun 8yb i 4yp
Dydd Mawrth 8yb i 4yp
Dydd Mercher 8yb i 4yp
Dydd Iau 8yb i 4yp
Dydd Gwener 8yb i 3yp

Ffoniwch y rhifau canlynol yn ystod oriau swyddfa os hoffech siarad ag aelod o'r Tîm Pryderon. 

  • 029 218 36318

Gallwch hefyd lenwi ein Ffurflen Bryderon, e-bostio'r tîm yn concerns@wales.nhs.uk neu ysgrifennu at y
Prif Weithredwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Maes y Coed Road
Llanisien
Caerdydd
F14 4HH

Os hoffech gyfathrebu â ni yn Iaith Arwyddion Prydain (BSL), defnyddiwch SignVideo.

Cymorth

Mae Llais yn gorff annibynnol sy’n darparu eiriolaeth a chymorth cyfrinachol am ddim ar gyfer cwynion.

Llais
Trydydd llawr
33-35 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9HB

Rhif ffôn: 02920 235558

E-bost: ymholiadau@llaiscymru.org

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Gwefan: llaiscymru.org

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni