Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn cyflwyno gwasanaeth ar-lein newydd a chyffrous i roi mynediad i'n cleifion i'w Cofnodion Iechyd Personol (PHR). Mae hwn yn defnyddio platfform wedi'i alluogi ar y rhyngrwyd a ddarperir gan Patients Know Best (PKB). Rydym yn cyflwyno'r gwasanaeth ar-lein gyda'r bwriad o gofrestru pob un o'n cleifion dros y misoedd nesaf.
O ganlyniad i bandemig COVID-19, mae'r Bwrdd Iechyd yn newid y ffordd y mae'n darparu ei wasanaethau. Rhan allweddol o sut y gellir gwneud y newidiadau yn bosibl yw trwy ddefnyddio Cofnod Iechyd Personol (PHR) neu borth cleifion. Mae hyn yn caniatáu i gleifion weld llythyrau apwyntiad, gohebiaeth glinigol, adroddiadau a chanlyniadau profion. Mae'n darparu dull diogel i gleifion a thimau clinigol gyfathrebu a dyma lle gall gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol uwchlwytho adnoddau i alluogi cleifion i reoli eu cyflyrau eu hunain yn well, fel fideos ar gyfer ffisiotherapi, neu sut i ofalu am eich dyfais feddygol. Mae hefyd yn caniatáu i gleifion uwchlwytho gwybodaeth am dechnoleg wisgadwy a allai fod o gymorth i staff wrth reoli iechyd a gofal cleifion.
Dyluniwyd eich Cofnod Iechyd Personol (PHR) i roi mynediad ar unwaith i'ch cofnodion iechyd i chi a'ch timau gofal iechyd, gan gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am driniaethau, meddyginiaeth, alergeddau a chynlluniau gofal. Gellir rhannu'r wybodaeth hon â gwahanol dimau meddygol a gofalwyr i gyflymu a gwella triniaeth.
Mae hyn yn golygu y gallwch gyrchu cofnod meddygol mwy cyfannol a chywir mewn amser real.
Mae'r system yn cynnig hyder i'n timau clinigol wneud penderfyniadau yn seiliedig ar wybodaeth gywirach gan yr holl wahanol ddarparwyr gofal iechyd sy'n ymwneud â gofal y claf.
Bydd y system yn rhoi mynediad ichi i'ch gwybodaeth iechyd gyda'r gallu i rannu hyn yn ddiogel ag unrhyw weithwyr iechyd a gofal proffesiynol sy'n ymwneud â'ch gofal, a'ch gofalwyr neu aelodau o'ch teulu.
Gweler Hysbysiad Preifatrwydd Cofnod Iechyd Personol BIP Caerdydd a'r Fro.
“Derbyniais wahoddiad [llythyr/e-bost/SMS] i gofrestru ar gyfer Cofnod Iechyd Personol - beth yw hwn?”
“Beth yw'r budd? Pa wybodaeth allai ei gweld?”
“A yw'n ddiogel; a sut y gallaf fod yn siŵr na fydd fy ngwybodaeth yn cael ei rhannu na'i gwerthu?”
“Pa ddyfeisiau y mae eich Cofnod Iechyd Personol yn gydnaws â nhw; ac a oes angen cysylltiad rhyngrwyd arnaf?”
Gallwch gyrchu'ch Cofnod Iechyd Personol o unrhyw dabled, gliniadur, ffôn clyfar, neu ddyfais bwrdd gwaith trwy borwr rhyngrwyd fel Google Chrome neu Safari. Fodd bynnag, bydd angen mynediad i'r rhyngrwyd arnoch chi (neu ofalwr) i dderbyn eich gohebiaeth ac i ddefnyddio'r holl nodweddion.
“A gaf i ofyn i ofalwr neu aelod o’r teulu gofrestru ar fy rhan?”
Cewch. Gall aelodau o'r teulu a gofalwyr, gyda'ch caniatâd, gofrestru ar eich rhan. Fodd bynnag, ni ddylent ddefnyddio eu cyfrif e-bost eu hunain i wneud hyn. Os ydych chi am i'r aelod o'r teulu neu'r gofalwr gael mynediad i'ch cofnod, gellir eu hychwanegu yn yr adran “rhannu”. Bydd hyn yn caniatáu iddynt sefydlu eu cyfrif eu hunain ac yn caniatáu ichi reoli lefel y mynediad sydd ganddynt i'ch cofnod.
“Pam mae fy nghofnod yn wag?”
Ni allwn ychwanegu unrhyw wybodaeth nes eich bod wedi cofrestru. Ar ôl i chi gofrestru, bydd eich gohebiaeth yn dechrau ymddangos. Yn y cyfamser, gallwch ychwanegu eich gwybodaeth eich hun, fel olrhain eich symptomau neu gofnodi unrhyw alergeddau neu feddyginiaeth rydych chi'n eu cymryd. Mae mwy a mwy o wasanaethau gofal iechyd a gynigir gan BIP Caerdydd a'r Fro yn dod ar-lein gyda'r cofnod iechyd personol digidol. Rydym yn gweithio i integreiddio'ch holl gofnodion meddygol o fis Tachwedd 2020.
“A fydd angen i mi dalu?”
Na, mae hwn yn wasanaeth hollol rhad ac am ddim a gynigir gan BIP Caerdydd a'r Fro.
“Lle alla'i ganfod mwy?”
Edrychwch ar patientsknowbest.com a chliciwch i ddysgu mwy am ddefnyddio'r platfform.
“Rwy'n cael problemau technegol. Gyda phwy ddylwn i gysylltu?”
E-bostiwch Patients Know Best yn uniongyrchol ar help@patientsknowbest.com. Y cyfan sydd angen i chi ei ddarparu yw eich enw, enw'r sefydliad a greodd eich cyfrif (h.y. yr ysbyty hwn) a chrynodeb o'r broblem (problemau) rydych chi wedi dod ar eu traws. Os oes gennych broblemau gyda'r wybodaeth sydd ar gael yn PKB sy'n ymwneud â'ch cofnodion, e-bostiwch phr.cav@wales.nhs.uk.
“Pryd fydd y gwasanaeth rydw i'n ei gyrchu yn mynd yn fyw?”
Rydym yn cyflwyno Cofnodion Iechyd Personol digidol ar draws llawer o'n gwasanaethau dros nifer o fisoedd. Mae hyn yn golygu y byddwn yn ychwanegu mwy o wybodaeth at eich cofnod digidol dros amser. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â phr.cav@wales.nhs.uk.
“Rwy’n cyrchu sawl gwasanaeth CAF. A ydw i angen cyfrifon lluosog?”
Na, bydd eich holl ofal dan BIP Caerdydd a Fro yn cael mynediad o'ch cyfrif cofnod iechyd personol, sengl.