Neidio i'r prif gynnwy

Stori Mr Chinnick

Stori Maurice Chinnick 

Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o’r Haul (3-9 Mai 2021), rydym yn tynnu sylw at yr angen i bobl ofyn am gyngor meddygol os ydynt yn poeni am unrhyw beth ar eu croen

Yn ystod tymor yr Hydref yn 2007, sylwodd Mr Chinnick ar ddarn crwn o groen cennog ar ei foch dde. Roedd yn creu mai brech eillio oedd yno ac nad oedd yn ddim amheus. Fodd bynnag, yn 2008, roedd ei wraig yn mynd i weld dermatolegydd i drafod môl. Cafodd ei annog i ddod hefyd i ofyn am y marc tebyg i ‘fôl’ ar ei foch nad oedd wedi diflannu ryw 12 mis yn ddiweddarach.

Cafodd gadarnhad gan y dermatolegydd mai melanoma amelanotig oedd yno; cell ganseraidd ar ei foch. Ychydig wythnosau yn ddiweddarach, tynnwyd y celloedd ond nid yna ddiwedd y stori. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, daeth y melanoma yn ôl ond ar groen y pen y tro hwn; bu’n rhaid tynnu croen y pen yn gyfan gwbl. Ers hynny, mae Maurice wedi datblygu melanoma metastatig (celloedd canser sydd wedi lledaenu i rannau eraill o’r corff) yn ei chwarennau adrenal ond cafodd lawdriniaeth yn 2010 i dynnu’r rhain. Ymunodd Maurice â threial imiwnotherapi (math o driniaeth canser sy’n helpu eich system imiwnedd i drechu canser) yn 2013 ac mae wedi cael imiwnotherapi pellach ers hynny. 

Bum mlynedd yn ddiweddarach, mae Maurice wedi cael lobectomi dde uchaf (llawdriniaeth ar yr ysgyfaint) i dynnu melanoma metastasis – melanoma sydd wedi lledaenu i rannau eraill o’r corff. Mae’n parhau i gael apwyntiadau dilynol ond does dim tystiolaeth o fodolaeth melanoma ar hyn o bryd, sy’n rhyddhad i Maurice a’i deulu.

Cawsom sgwrs â Maurice am ei brofiad a gofyn a oedd ganddo unrhyw gyngor i’r rhai hynny a fydd efallai’n sylwi ar farciau anghyffredin ar eu croen, “Cadwch lygad ar eich corff a pheidiwch ag oedi cyn cysylltu â Gweithiwr Meddygol Proffesiynol i drafod unrhyw bryderon. Gwnewch hynny cyn gynted â phosibl.”

Bellach mae agwedd Mr Chinnick wedi newid yn llwyr pan fo allan yn yr haul. Mae’n gwisgo eli haul ffactor 50 o leiaf, bob amser yn gwisgo het ac yn gorchuddio’i gorff yn gyfforddus.

Mae Maurice yn myfyrio ar ei brofiad o ganser y croen dros y blynyddoedd, “Teimlaf yn ffodus iawn fy mod wedi goresgyn y salwch, ac rwy’n gwerthfawrogi pob dydd.”

Os ydych chi, fel Maurice, yn sylwi ar unrhyw beth anghyffredin ar eich croen, boed yn farc neu’n fôl, siaradwch â’ch meddyg teulu lleol ac ewch i gael cyngor.

Dilynwch ni