Neidio i'r prif gynnwy

Stori Mr Andersson

Stori Peter Andersson

Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o’r Haul (3-9 Mai 2021), rydym yn tynnu sylw at yr angen i bobl ofyn am gyngor meddygol os ydynt yn poeni am unrhyw beth ar eu croen.

Nôl yn 2016, sylwodd Mr Andersson ar farc ar ei dalcen a edrychai fel smotyn a oedd yn dychwelyd o hyd. Er nad oedd yn meddwl ryw lawer am y smotyn, aeth Peter i weld ei feddyg teulu ddeufis ar ôl i’r marc ymddangos am y tro cyntaf.

Roedd y meddyg teulu yn gallu dweud yn syth mai canser cell waelodol oedd yno ac atgyfeiriodd Peter i’r ysbyty ble gafodd driniaeth i dynnu’r celloedd ychydig fisoedd yn ddiweddarach. Fodd bynnag, daeth y canser yn ôl a chafodd Mr Andersson lawdriniaeth micrograffig Mohs ym mis Mehefin 2020.

Ei gyngor i eraill a fydd efallai’n sylwi ar farciau neu smotiau ar eu croen? “Os oes rhywbeth o’i le ar eich corff, ewch i weld eich meddyg teulu. Dilynwch y gweithdrefnau priodol, gan gynnwys gwisgo masg, ac ewch i gael cyngor.”

Yn ffodus, mae Peter yn glir ohono ond mae ei agwedd tuag at fod allan yn yr haul wedi newid. Mae e bellach yn gwisgo het pan fydd y tu allan, hyd yn oed ar ddiwrnodau heb haul. I gael rhagor o wybodaeth am ganfod arwyddion cynnar o ganser y croen, ewch i wefan y GIG. Dilynwch gyngor Peter; os nad ydych chi’n siŵr o unrhyw beth ar eich croen, cysylltwch â’ch meddyg teulu.

Dilynwch ni