Neidio i'r prif gynnwy

Diogelwch Yn Yr Haul

Mae llawer ohonom yn mwynhau treulio amser yn yr awyr agored, ond mae'n bwysig cofio y gall eich croen gael ei niweidio'n hawdd gan yr haul. Mae llosg haul yn cynyddu eich risg o ddatblygu canser y croen, felly dilynwch yr awgrymiadau hyn i helpu i amddiffyn eich croen.

Gwisgwch eli haul

  • defnyddiwch eli haul gydag isafswm SPF 30 ac o leiaf pedair seren ar gyfer amddiffyniad UVA
  • gwiriwch ddyddiad dod i ben eich eli haul, oherwydd os yw wedi dyddio ni fydd mor effeithiol
  • rhowch ddigoned o eli haul ar y corff a’r wyneb 15 i 20 munud cyn mynd allan
  • defnyddiwch bum llwy de i orchuddio'r corff cyfan, neu ddwy lwy de os ydych chi'n gorchuddio'ch pen, eich breichiau a'ch gwddf yn unig
  • rhowch eli haul ar y corff a’r wyneb bob dwy awr neu'n syth ar ôl nofio neu chwysu (hyd yn oed os yw'n gallu gwrthsefyll dŵr)

Byddwch yn ddiogel yn yr haul

  • gwisgwch ddillad llac a het lydan i amddiffyn y gwddf, y clustiau a'r wyneb
  • gwisgwch sbectol haul gyda lensys cofleidiol neu freichiau llydan gyda'r Marc CE a Marc Safon Prydain 12312-1:2013 E
  • yfwch ddigon o hylifau ac osgoi gormod o alcohol
  • ceisiwch gysgod rhwng 11am a 3pm pan fydd yr haul ar ei gryfaf
  • peidiwch byth â gadael unrhyw un mewn cerbyd wedi parcio dan glo, yn enwedig babanod, plant ifanc ac anifeiliaid
  • byddwch hyd yn oed yn fwy gofalus wrth ddiogelu babanod a phlant. Dylech chi gadw plant o dan 6 mis oed allan o olau haul cryf, uniongyrchol
  • dylech osgoi gwneud ymarfer corff yn ystod adegau poethaf y dydd
  • cadwch lygad am y rhai a allai ei chael hi'n anodd cadw'n oer a hydradol - mae pobl hŷn, y rhai â chyflyrau iechyd sylfaenol a'r rhai sy'n byw ar eu pennau eu hunain mewn perygl arbennig

Dysgwch fwy am ddiogelwch yn yr haul gan GIG 111 Cymru

Gorludded Gwres a Thrawiad Gwres

Nid yw gorludded gwres fel arfer yn ddifrifol os gallwch oeri o fewn 30 munud. Os yw'n troi'n drawiad gwres, mae angen ei drin fel argyfwng.

Mae GIG 111 Cymru yn darparu gwybodaeth am:

  • arwyddion o orludded gwres
  • sut i oeri rhywun
  • pryd i ffonio 999
  • sut i atal gorludded gwres a thrawiad gwres

Canser y Croen

Canser y croen yw'r math mwyaf cyffredin o ganser yn y DU. Mae canserau'r croen yn cael eu hachosi o ganlyniad i niwed gan belydrau uwchfioled (UV) yr haul. Gall amddiffyn y croen rhag yr haul helpu i atal y canserau hyn.

Rhowch wybod i'ch meddyg teulu am unrhyw newidiadau i fannau geni neu unrhyw dyfiant anarferol ar y croen.

Mae GIG 111 Cymru yn darparu gwybodaeth am y ddau brif gategori o ganser y croen:

Cwestiynau Cyffredin Diogelwch yn yr Haul

Rhowch sbwng gyda dŵr oer ar y man ar y croen sy’n boenus ac yna rhowch hylif ‘after-sun’ ar y croen neu chwistrelliad o rywbeth fel aloe vera, er mwyn ei oeri.

Bydd poenladdwyr, fel paracetamol neu ibuprofen, yn lleddfu’r boen drwy helpu i leihau unrhyw lid ar ôl i chi losgi yn yr haul.

Arhoswch allan o'r haul nes bod pob arwydd o gochni wedi mynd.

Dysgwch fwy am sut i drin llosg haul gan GIG 111 Cymru.

Modd o fesur yr amddiffyniad rhag ymbelydredd uwchfioled B (UVB) yw’r ffactor amddiffyn rhag yr haul (SPF).

Mae SPFs yn cael eu graddio ar raddfa o 2 i 50+ yn seiliedig ar lefel yr amddiffyniad maen nhw'n ei gynnig, gyda 50+ yn cynnig y math cryfaf o amddiffyniad UVB.

Mae'r sgôr seren yn mesur maint yr amddiffyniad ymbelydredd uwchfioled A (UVA) Dylech chi weld sgôr seren o hyd at 5 seren ar eli haul y DU. Po uchaf yw'r sgôr seren, y gorau.

Gallwch. Gall swm sylweddol o belydrau UV fynd drwy’r cymylau o hyd, felly mae’n well gwisgo eli haul os ydych chi allan yn ystod yr haf.

Nid oes unrhyw eli haul yn cynnig 100% o amddiffyniad felly ni ddylid byth ei ddefnyddio yn lle dillad a chysgod.

Na. Llosg haul a chroen yn pilio yw pen eithafol niwed i'r croen o belydrau UV. Pan fyddwch yn cael lliw haul ar eich croen, mae hyn yn niweidio'ch croen ac yn eich rhoi mewn perygl o ganser y croen yn y dyfodol.

Nac ydy. Does dim y fath beth â lliw haul iach. Os bydd y croen yn newid lliw, mae’n dangos bod niwed wedi’i wneud i’r celloedd.

Gallwch. Gall ymbelydredd UVA dreiddio trwy wydr. Gwnewch yn siŵr eich bod yn amddiffyn eich croen ar deithiau car hir neu os ydych chi'n treulio llawer o amser yn eistedd wrth ffenestri heulog.

Na fydd. Efallai y bydd ‘aftersun’ yn helpu i leddfu ac oeri eich croen, ond ni all ddadwneud y niwed a wneir i DNA y tu mewn i'ch celloedd.

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni