Mae BIP Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i atal a rheoli heintiau ymhlith cleifion, staff ac ymwelwyr ar bob safle bwrdd iechyd bob amser
Rôl y Tîm Atal a Rheoli Heintiau (IPC) yw cefnogi, addysgu a chynghori ar bob mater o atal haint. Mae'r tîm yn cynhyrchu polisïau a gweithdrefnau i helpu i ddiogelu cleifion a staff, ac maent yn cychwyn mesurau rheoli a brys yn ôl yr angen.
Mae ein tîm yn cynnwys nyrsys arbenigol, gwyddonydd, a staff gweinyddol sy'n gweithio gyda'r Cyfarwyddwr Atal a Rheoli Heintiau, sydd hefyd yn Ficrobiolegydd Ymgynghorol.
Mae'r tîm wedi'i leoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru (YAC) ac Ysbyty Athrofaol Llandochau (YALl). Os hoffech gael cyngor neu wybodaeth am atal a rheoli heintiau, cysylltwch â'r meysydd perthnasol isod.
Atal a Rheoli Heintiau Ysbyty Athrofaol Cymru Heath Park Caerdydd CF14 4XW Ffôn: 029 2074 6703 |
Atal a Rheoli Heintiau Ysbyty Athrofaol Llandochau Penlan Road Penarth CF64 2XX Ffôn: 029 2071 5512 |