Gweld y dudalen hon yn Wcreineg | Перегляньте цю сторінку українською мовою
Rydym yn meddwl am bawb y mae’r argyfwng sy’n mynd rhagddo yn Wcráin yn effeithio arnynt. Mae hwn yn gyfnod hynod bryderus a thrallodus i gymunedau ledled y byd, ac mae gan lawer o staff ac aelodau o'n cymuned gysylltiadau agos â theulu a ffrindiau yn Wcráin.
Mae degau ar filoedd o bobl o Wcráin wedi gorfod gadael eu cartrefi ac mae llawer yn chwilio am ddiogelwch a noddfa yn y DU a Chymru drwy’r Cynllun Teuluoedd o Wcráin a’r cynllun Cartrefi i Wcráin.
Rydym yn ymrwymedig i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi’r rhai sy’n cyrraedd Caerdydd a Bro Morgannwg, gan gynnig cymorth gofal iechyd yn uniongyrchol.
Rydym hefyd yn rhannu'r ystod o adnoddau canlynol i helpu pobl i gael mynediad at ofal iechyd a chymorth iechyd meddwl.
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu llinell gymorth sy'n cynnig cymorth, cyngor a chefnogaeth i'r rhai sy'n cyrraedd o Wcráin.
Ffoniwch 0808 175 1508 neu defnyddiwch +44(0) 20 4542 5671 os ydych yn ffonio o'r tu allan i'r DU.
Cymorth gan Lywodraeth Cymru i bobl yr effeithir arnynt
Gwefan Noddfa Llywodraeth Cymru
Bydd Wcreiniaid sy'n cyrraedd Cymru yn gallu cael mynediad at ofal iechyd y GIG yn rhad ac am ddim gan gynnwys ymgynghoriadau gan feddygon teulu a nyrsys, gwasanaethau ysbyty a mynediad at ofal brys. Bydd Wcreiniaid sy'n dod i'r DU hefyd yn cael cynnig brechlynnau COVID-19 a gwasanaeth sgrinio iechyd y cyhoedd.
Mae GIG 111 Cymru yn darparu cyngor iechyd a mynediad at ofal brys nad yw'n argyfwng.
Gwiriwch eich symptomau a chael cyngor iechyd ar-lein (Cymraeg a Saesneg)
Ffoniwch 111 am ddim o'ch ffôn symudol neu linell dir a siaradwch â chynghorydd yn Gymraeg, Saesneg neu un o dros 120 o ieithoedd drwy wasanaeth cyfieithu a chyfieithu ar y pryd dros y ffôn. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud pan fyddwch yn galw yw nodi yn Saesneg yr iaith y byddai'n well gennych ei defnyddio.
Ar gyfer argyfyngau sy’n bygwth bywyd, ffoniwch 999. Bydd y gweithredwr yn rhoi gwybod beth i'w wneud neu ble i fynd nesaf.
Mae'r llinell gymorth yn darparu cymorth a gwybodaeth i unrhyw un sy'n dioddef trallod meddwl yn ogystal â'u teuluoedd a'u ffrindiau.
Yn cefnogi pobl sydd wedi profi digwyddiadau trawmatig.
Gweld y pecyn cymorth yn Wcreineg
Gweld y pecyn cymorth yn Saesneg
Gweld y pecyn cymorth yn Rwseg
Noder: Bydd y ddolen hon ond yn gweithio os byddwch yn edrych arni ar ddyfeisiau’r Bwrdd Iechyd.