Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth i Gleifion ac Ymwelwyr

Orthopteg

Mae clinigau orthopteg ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn cynnig amrywiaeth o ddiagnosteg a thriniaethau, wedi'u lleoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru (YAC) ac Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru.Gellir gwneud atgyfeiriad uniongyrchol am apwyntiad orthoptig trwy optometrydd, tîm ymwelwyr iechyd, tîm nyrsio ysgol neu eich practis meddyg teulu.

Mae'r staff yn cynnwys orthoptyddion, optometryddion, ymarferwyr nyrsio a thechnegwyr sy'n cyflawni rolau penodol o fewn y tîm.

Mae clinigau orthoptig plant yma i ddarparu diagnosis a thriniaeth ar gyfer llygad croes (troeon yn y llygaid), amblyopia (llygad diog) ac unrhyw fath o anhwylder symudiad llygaid neu broblem gyda datblygiad y golwg.Mae'r clinig orthoptig hefyd yn arwain y rhaglen sgrinio golwg a gynhelir mewn ysgolion fel rhan o oruchwyliaeth iechyd eich plentyn yn y dosbarth derbyn.

Darperir apwyntiadau i oedolion i asesu llygad croes, problemau symudiad llygaid a diplopia (golwg dwbl).Gall asesiadau brys gyda'r orthoptydd fod yn rhan o atgyfeiriad at y Clinig Llygaid Brys yn YAC.Gwelir cleifion hefyd yn y clinig orthoptig ar gyfer profion meysydd golwg a biometreg (mesuriadau llygaid) cyn llawdriniaeth cataractau.

Yn ein clinig rydym hefyd yn cynnal apwyntiadau monitro glawcoma gyda'n Optometryddion Uwch a'n tîm ymarferwyr glawcoma.

Mae pob orthoptydd wedi'i gofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) ac rydym yn hapus i gynnig apwyntiadau yn y Gymraeg lle mae staff sy'n siarad Cymraeg ar gael.

https://orthoptics.org.uk/patients-and-public/orthoptic-common-conditions/

https://youtu.be/m-_Qlqz9qzI   

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni