Mae'r Clinig Toresgyrn Rhithwir yn cynnwys gwybodaeth ac arweiniad ynglŷn â sut i reoli'ch triniaeth. Mae'r wybodaeth yn yr adran hon ar gyfer cleifion sydd wedi cael diagnosis o anaf orthopedig penodol ac yna wedi cael eu hatgyfeirio i'r Clinig Toresgyrn Rhithwir hwn. Mae'n bwysig eich bod yn ceisio cyngor o rywle arall os nad yw'r sefyllfa hon yn berthnasol i chi.
Dilynwch y camau canlynol:
- Cliciwch ar Wybodaeth am Anafiadau a Chynlluniau Gofal.
- Dewiswch ardal yr anaf o'r rhestr.
- Dewiswch y math o anaf a gawsoch. Dylai hyn fod wedi'i nodi ar eich 'Pasbort Claf Clinig Toresgyrn Rhithwir’.
- Darllenwch yr holl wybodaeth a ddarperir yn ofalus, a gwyliwch unrhyw fideos ar gyfer eich cynllun triniaeth. Dylai'r rhain ateb y rhan fwyaf o'ch cwestiynau. Os oes gennych gwestiwn penodol nad yw'n derbyn sylw, cysylltwch â ni.
- Gweler hefyd Cyngor Cyffredinol i Gleifion.