Neidio i'r prif gynnwy

Cysylltu â'r Clinig Toresgyrn Rhithwir

Llinell Gymorth y Clinig Toresgyrn Rhithwir

Mae llinell gymorth y Clinig Toresgyrn Rhithwir ar gael o 8am tan 12pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rhif ffôn: 02920 715043

Hoffai ein tîm clinigol ymroi eu hamser yn llwyr i bob claf. Er mwyn sicrhau bod gennym eich gwybodaeth wrth law, byddwch yn cyrraedd ein gwasanaeth neges llais lle y gofynnwn i chi roi'r wybodaeth ganlynol i ni:

  • Eich enw llawn
  • Eich dyddiad geni
  • Y dyddiad yr aethoch i'r Adran Achosion Brys
  • Y math o anaf
  • Eich manylion cyswllt

Bydd aelod o'r tîm toresgyrn rhithwir yn dychwelyd eich galwad i drafod eich ymholiad. 

Clinig Toresgyrn Cyffredin

Os ydych eisiau cael eich gweld yn y clinig toresgyrn cyffredin yn lle hynny, gallwch gysylltu â'r rhif canlynol i drefnu apwyntiad.

Rhif ffôn: 02920 715043

Bydd angen i chi roi'r wybodaeth ganlynol i ni:

  • Eich enw llawn
  • Eich dyddiad geni

Os oes gennych anaf newydd, ewch i'ch Adran Damweiniau ac Achosion Brys leol.