Neidio i'r prif gynnwy

Theatrau

Mae Adran y Theatrau yn darparu gofal i blant ac oedolion sy'n cael llawdriniaeth. Rydym ni'n cefnogi llawdriniaeth ac anesthesia ar gyfer argyfyngau, trawma ac orthopedeg, triniaeth gardiothorasig, niwrolawdriniaeth, gynaecoleg a llawer o arbenigeddau eraill.

Yn gyfan gwbl, mae 12 theatr yn Ysbyty Athrofaol Cymru a 10 yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, sy'n cynnwys dwy theatr llawdriniaeth ddydd.  

Rydym yn cynnig y gofal o'r ansawdd uchaf mewn amgylchedd diogel a chroesawgar i gleifion, eu perthnasau neu eu gofalwyr. Rydym yn gosod y claf yn ganolog i bopeth a wnawn oherwydd rydym yn deall bod cael llawdriniaeth yn gallu bod yn brofiad anodd, sy'n llawn straen. 

Mae'r ddau safle'n cynnig cymorth a chyfleusterau ar gyfer amrywiaeth fawr o arbenigeddau.