Neidio i'r prif gynnwy

Ymweld â'n Ward

Ymweld â'n ward

Mae ward C1 wedi'i neilltuo'n benodol ar gyfer Oncoleg Gynaecolegol. Mae wedi'i lleoli ym Mloc C yn Ysbyty Athrofaol Cymru ar y llawr 1af.

 

Parcio

Mae sawl maes parcio ar gael ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru, wedi'u dangos yn glir gan arwyddion. Nid yw parcio am ddim.
 

Cyfarwyddiadau i gyrraedd Ward C1

I gyrraedd y ward, gallwch fynd i mewn trwy brif fynedfa'r ysbyty a mynd ymlaen i floc C. Defnyddiwch y lifft/grisiau i fynd i'r llawr 1af. Bydd yr Uwch-nyrs Carolyn Alport a'i thîm ymroddedig o staff nyrsio yn barod i'ch croesawu, a byddant yn ymdrechu i sicrhau bod eich arhosiad mor gyfforddus â phosibl.
 

Pwy yw pwy?

Dyma ganllaw syml ynglŷn â'r staff ar y ward
    Nurse uniform                   

Amserau ymweld ward Delyth:

Yn ystod yr wythnos ac ar y penwythnos
 2pm tan 4pm 
 6pm tan 8pm  
Oherwydd natur y ward, mae'n rhaid cadw at yr amserau ymweld.
Mae hyn yn caniatáu i'r staff meddygol a nyrsio gyflawni eu dyletswyddau'n ddiogel drwy gydol y dydd.
Os yw'r amserau hyn yn achosi problem am unrhyw reswm, trafodwch hyn gyda Phrif Nyrs y Ward neu'r nyrs â gofal ar bob cyfrif.
 

Amserau prydau bwyd

Brecwast -   8:00 – 08:30
Cinio –        12:00 – 13:00
Swper –      17:00 – 18:00

Mae amserau prydau bwyd wedi'u neilltuo ar waith ar y ward fel bod ein cleifion yn gallu cael eu prydau bwyd mewn llonyddwch. 
Anogir perthnasau cleifion y mae angen iddynt gael cymorth rheolaidd i fwyta ac yfed ddod i'r ward yn ystod amserau prydau bwyd os ydynt eisiau helpu eu perthynas gyda'i brydau bwyd. Trafodwch hyn gyda'r nyrs â gofal.
 

Eiddo Personol

Pan fyddwch yn paratoi ar gyfer cael eich derbyn, ceisiwch ddod â chyn lleied o eiddo personol â phosibl i'r ysbyty a dewch â'r hyn sydd ei angen yn unig, gan nad oes llawer o le storio ar gyfer pob ardal wely. 
 

Ffonau symudol

Caniateir ffonau symudol yn y ward, ond gofynnir i gleifion barchu eu preifatrwydd a'u hurddas ei gilydd. Mae'n rhaid i bob ffôn symudol gael ei droi yn isel neu ei osod i grynu yn unig. Ni chaniateir defnyddio ffonau ar y ward cyn 8am nac ar ôl 9pm y nos. 
 

Siop symudol

Mae siop symudol sy'n gwerthu papurau newyddion a lluniaeth yn ymweld â'r ward bob dydd.
 

Caffeteria / Ffreutur

Mae WRVS yn darparu caffeteria sydd wedi'i leoli yn y clinig cynenedigol.
Mae'r ffreutur a chaffeteria mwy o faint ar gael ger prif fynedfa'r ysbyty ar y prif goridor.
Rhif ffôn cyswllt ar gyfer Ward Delyth: 029 20 716035 / 029 20 716037