Neidio i'r prif gynnwy

Sylwadau Cleifion

"A wnewch chi ddiolch i Mr Lim a'i dîm ar fy rhan. O'm cyfarfod cyntaf â Mr Lim, roeddwn i'n teimlo 'mod i mewn dwylo diogel iawn. Esboniodd bopeth i mi'n glir iawn cyn fy nghyflwyno i Mrs Non Phillips, a oedd yn wych hefyd. Hoffwn hefyd ddiolch i Dr Gurumurthy am ei rhan hi yn fy nhriniaeth. Ni allwn fod wedi gofyn am well. Y noson cyn fy llawdriniaeth, dychwelodd yr Anesthetydd Ymgynghorol i'r ysbyty am 9pm i dawelu fy meddwl cyn y llawdriniaeth. Rwy'n siŵr yr oedd hyn ymhell y tu hwnt i'w ddyletswydd, ac rwy'n ddiolchgar iawn. Mae fy nhriniaeth yn Ward Delyth yn dyst i ragoriaeth y GIG yng Nghymru, ac fe ddylwn ni fod yn fythol ddiolchgar am hynny. Diolch o galon" - A Parry