Neidio i'r prif gynnwy

Amserau ein Clinigau

clinic
 

Mae'r clinig gynaeoncoleg cyfunol wedi'i leoli ar lawr gwaelod uchaf y bloc mamolaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Gan fod lle parcio'n gyfyngedig iawn ar hyn o bryd, dylech gyrraedd yn gynnar neu ofyn i rywun eich gollwng wrth y fynedfa i'r bloc mamolaeth.

Mae tîm ein clinig, a arweinir gan y Brif Nyrs Laura Groves, yn ymdrechu i sicrhau bod eich ymweliad mor ddidrafferth â phosibl. Fodd bynnag, clinigau mynediad cyflym yw'r rhain, felly mae nifer y cleifion ym mhob clinig yn amrywio o un wythnos i'r llall. Oherwydd hyn, ymddiheurwn o flaen llaw os bydd rhaid i chi aros yn ystod eich apwyntiad.
 
Bydd derbynwraig ein clinig bob amser yn ceisio rhoi'r diweddaraf i chi am unrhyw oedi.
 
Mae caffi ynghlwm wrth y clinig cynenedigol ar y llawr islaw lle y gallwch gael lluniaeth ysgafn tra byddwch yn aros am eich apwyntiad.
 

Amserau'r Clinig Mynediad Cyflym
 

Clinig bore dydd Mercher (Cleifion newydd) 10.30am -12.30am
Clinig prynhawn dydd Mercher (Cleifion dilynol)    1.30pm – 5.30pm
 

Derbynfa Cleifion Allanol

Gellir cysylltu â'n cydlynydd ar 02920741265