Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan Oncoleg Gynaecolegol De-ddwyrain Cymru

Mae Canolfan Oncoleg Gynaecolegol De-ddwyrain Cymru wedi'i lleoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru (UHW) ac mae'n gwasanaethu poblogaeth de-ddwyrain Cymru a rhannau o dde-orllewin Cymru. Rydym yn hwb atgyfeirio trydyddol ar gyfer de Cymru, ac yn ganolfan atgyfeirio leol ar gyfer poblogaeth Caerdydd a'r Fro.

At hynny, rydym hefyd yn ganolfan hyfforddiant llawfeddygol ar gyfer canser gynaecolegol, ac yn uned ymchwil ranbarthol. Mae'r brif ganolfan lawfeddygol yn UHW ac mae'r cymorth radioleg a phatholeg yn cael ei rannu rhwng UHW ac Ysbyty Athrofaol Llandochau (UHL). Mae unrhyw weithgarwch cemotherapi a radiotherapi sy'n ofynnol yn cael ei ddarparu gan y ganolfan oncoleg ranbarthol yn Ysbyty Felindre.

Bob blwyddyn, ar gyfartaledd, mae tua 500 o fenywod yn cael eu gweld a mwy na 300 o lawdriniaethau'n cael eu cyflawni yn y ganolfan gyda diagnosis o ganser posibl neu bendant. Mae'r tîm canser amlddisgyblaethol sy'n rheoli'r canserau yn cynnwys llawfeddygon canser gynaecolegol is-arbenigol, nyrsys canser arbenigol, oncolegwyr clinigol a meddygol, radiolegwyr, patholegwyr ac amrywiaeth o broffesiynau perthynol i feddygaeth (e.e. ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol a deietegwyr).

Mae gan y ganolfan draddodiad o ddarparu gwasanaeth, ymchwil arloesol a hyfforddiant llawfeddygol lefel uchel, a adolygir yn gyson er mwyn gallu darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i fenywod de Cymru sy'n dioddef canser gynaecolegol.
 

Datganiad Cenhadaeth a'n Gweledigaeth ar gyfer y Dyfodol

“Ein cenhadaeth yw creu grŵp cydlynol, amlddisgyblaethol sy'n cyflawni rhagoriaeth o ran gwasanaethau canser gynaecolegol i fenywod yn ne-ddwyrain Cymru.”