Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwil

Y Prosiect Awtistiaeth

Cynhaliwyd hwn i ddangos mor effeithlon yw defnyddio SMW wrth archwilio plant ag ASD. Cafodd disgyblion o ysgol The Hollies a oedd yn defnyddio offer SMW yn ddyddiol eu cymharu â phlant o Ysgol Ashgrove nad oeddent wedi'u cyflwyno i SMW. Daw'r astudiaeth i'r casgliad fod: yr offeryn fel petai'n ddefnyddiol wrth gynorthwyo gydag archwiliadau meddygol i blant ag ASD; byddai'n addas i'w gymhwyso i boblogaeth eang, er mwyn i fwy o blant fwynhau ei fanteision”.

Darllenwch am y prosiect Awtistiaeth yma

Astudiaeth beilot 'Pain Matters' 

Prosiect peilot 12 wythnos ‘Pain Matters’. Yn y prosiect peilot hwn, casglwyd ymchwil gennym gan ddefnyddio SMW ac offeryn Disdat (sef offeryn sy'n mesur trallod mewn cleifion di-eiriau). Cawsom wyth achos o ofal i gyd ac, o hynny, cawsom un ymateb cadarnhaol yn canfod bod yr unigolyn mewn poen a safle'r boen honno. Roeddem yn teimlo, o ran y cleifion eraill lle defnyddiwyd offeryn SMW, fod yr offeryn yr un mor ddefnyddiol i arddangos bod y claf yn rhydd o boen. 

Gail ElwellRGN  BA (Anrh.) Add., Nyrs Cyswllt Iechyd (Anableddau Dysgu - De Gwent)
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan / Aneurin Bevan University Health Board

Swyddfa dros dro:
Alders House, Llanfrechfa Grange, Llanfrechfa, Cwmbrân, NP44 8YN