Neidio i'r prif gynnwy

Dangoswch ble

Offeryn cyfleu poen yw Show Me Where, er mwyn i bobl ag anabledd lleferydd neu bobl sy'n methu siarad Saesneg gyfleu safle poen neu anghysur i ofalwyr. 

Mae'n ddefnyddiol i bobl â:

  • Strôc   
  • Awtistiaeth (ASD)
  • Dementia cyfnod cynnar  
  • Anableddau sy'n effeithio ar leferydd E.e. Parlys yr Ymennydd, Sglerosis Ymledol
  • Byddardod a phroblemau clyw
  • Cleifion wedi'u mewndiwbio neu wedi cael traceostomi

Mae hefyd yn ddefnyddiol i:

  • Bobl sy'n dioddef o drawma neu orbryder
  • Plant ac oedolion sy'n agored i niwed
  • Pobl nad ydynt yn siarad Saesneg

Defnyddiwch ‘Show me where’ yn rheolaidd er mwyn ei wneud yn rhan o drefn gyfarwydd a rhagfynegadwy, gan sicrhau y ceir gwybod am boen yn gynnar cyn i symptomau gynyddu, gan leihau straen a gorbryder a helpu i sicrhau archwiliad buan.  

Mewn amgylchedd clinigol, gall ymwelwyr ddefnyddio'r offeryn i ofyn sut hwyl sydd ar glaf, a rhoi gwybod i staff meddygol os oes angen. Gall clinigwyr hefyd ddefnyddio'r offeryn i egluro pa le yr hoffent ei archwilio a chael caniatâd.

Fe'i defnyddir mewn amrywiaeth o safleoedd:

  • Ysgolion
  • Meddygfeydd teulu
  • Clinigau deintyddol
  • Ysbytai
  • Cartrefi Gofal
  • Unedau Gofal Dwys
  • yr Heddlu
  • Lluoedd Arfog EM
  • Gwasanaethau Cymdeithasol (Amddiffyn Plant)
  • Ambiwlans ac Argyfwng
  • Amgylcheddau hosbis.