Neidio i'r prif gynnwy

Codi, gwisgo, symud.

 

Logo 'Get Up'

 

Mae BIP Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i helpu ein cleifion i gadw mor weithgar ac annibynnol ag sy'n bosibl yn ystod eu hamser yn aros yn ein hysbytai.

O fis Ebrill 2018, gwnaethom addewid i gefnogi ymgyrch genedlaethol #endPJparalysis.

Mae her genedlaethol 70 diwrnod, 1 miliwn o gleifion #EndPJparalysis yn digwydd rhwng 17 Ebrill a 26 Mehefin 2018 yn rhan o ben-blwydd y GIG yn 70, ac mae'n ategu ein hymgyrch ni, 'Codi, Gwisgo, Symud'. 

Mae enw'r ymgyrch yn cyfeirio at y ffaith fod llawer o gleifion, ar ôl eu derbyn i'r ysbyty, yn bodloni ar aros yn y gwely, yn eu pyjamas, tra byddant yn aros yn yr ysbyty. 

Fodd bynnag, dengys ymchwil nad yw gorffwys mewn gwely yn ffordd dda o wella o lawer o afiechydon neu anafiadau, ac y gallai gynyddu amseroedd gwella mewn gwirionedd. 

A dweud y gwir, gall aros yn y gwely a pheidio â symud gyfrannu at nifer o broblemau eraill. 

  • Gall effeithio ar anadlu 
  • Mae'n achosi i'r croen dorri i lawr a dolurio
  • Mae'n achosi i gyhyrau golli eu cryfder, gan achosi mwy o flinder
  • Mae cleifion yn colli annibyniaeth mewn gofal personol fel ymolchi a gwisgo amdanynt
  • Yn y pen draw, ni fydd cleifion yn gallu treulio bwyd yn iawn, gan achosi problemau gastroberfeddol 
  • Gall achosi dryswch a cholli hunanhyder, a allai arwain at iselder ysbryd 

Cymhlethir y risgiau hyn ymhlith cleifion hŷn, am fod y rheini dros 80 yn colli hyd at 10% o fàs eu cyhyrau mewn 10 diwrnod yn unig. Mae hyn yn gywerth â'u cyhyrau'n heneiddio rhyw 10 mlynedd. 

Hefyd, gall hyd at 50% o gleifion fod yn anymataliol o fewn 24 awr i'w derbyn, ac mae llai na 50% o gleifion yn gwella i lefelau cyn derbyn ymhen blwyddyn. 

Ymhlith rhai o fanteision cadw'n weithgar yn yr ysbyty mae: 

  • Anadlu'n well 
  • Gallu ymladd haint yn well
  • Gwell chwant bwyd
  • Gwell cwsg
  • Gwell hwyliau
  • Llai o berygl briwiau gwely 
  • Llai o wendid a blinder
  • Llai o benysgafnder a dryswch
  • Llai o risg cwympo

Codi 

Arhoswch allan o'r gwely yn ystod y dydd, fel y byddech yn ei wneud gartref 

Mae eistedd i fyny gymaint â phosibl tra byddwch yn yr ysbyty yn gwella sgiliau llyncu, treulio, anadlu a chyfathrebu!

 

cadair 'get up'


Gwisgo

Newidiwch o'ch pyjamas i'ch dillad yn ystod y dydd, fel y byddech yn ei wneud gartref. 

 

Os ydych chi, neu anwylyd, yn mynd i aros yn yr ysbyty cofiwch fynd â dillad dydd (nid pyjamas yn unig), esgidiau cadarn (nid sliperi yn unig) ac unrhyw beth arall sydd ei angen arnoch efallai i gadw'n weithgar fel cymhorthion cerdded, cymhorthion clyw neu sbectol ac ati. 

 

dillad 'Get Up'

 


Symud

Ceisiwch gerdded bob awr o leiaf. Wrth eistedd, symudwch eich breichiau a'ch coesau'n rheolaidd

Dim ond 19 munud o ymarfer corff y dydd sydd ei angen wrth aros yn yr ysbyty i wella symudedd, gwella amseroedd gwella a gwella ansawdd bywyd. 

 

cyhyrau 'Get Up'

 

 

 

 


 

Dilynwch ni