Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth Cyn Triniaeth

Pan fyddwch yn ceisio beichiogi, mae'n bwysig i'r ddau ohonoch fod mor iach â phosibl. Trwy wneud hynny, byddwch yn cynyddu'r siawns o feichiogi'n llwyddiannus â chymorth i'r eithaf.

Adolygodd Canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Effeithiolrwydd Clinigol (NICE) ar ymchwiliadau a thriniaethau ffrwythlondeb yr ymchwil sydd ar gael, a daeth i'r casgliad y gallai dewisiadau ffordd o fyw penodol effeithio ar y tebygolrwydd o lwyddo. Mae llawer o'r argymhellion hyn wedi cael eu cynnwys ym meini prawf triniaeth Comisiwn Iechyd GIG Cymru.

Mae rhai meysydd iechyd penodol y dylech ganolbwyntio arnynt:

  • Mae ymchwil wedi dangos bod pobl sy'n ddifrifol dros bwysau neu dan bwysau yn llai tebygol o feichiogi'n llwyddiannus â chymorth. Mae'n rhaid i'ch BMI fod rhwng 19 a 30 ar adeg triniaeth IVF. Dylech siarad â'ch meddyg teulu os ydych yn cael trafferth colli pwysau.
  • Mae'r driniaeth yn llai tebygol o lwyddo os yw'r naill bartner neu'r llall yn ysmygu. Gofynnwch i'ch meddyg teulu am gyngor ar roi'r gorau i ysmygu. Mae'n rhaid i'r ddau ohonoch fod wedi rhoi'r gorau i ysmygu ar adeg triniaeth IVF.
  • Mae'r tebygolrwydd o lwyddo'n lleihau os yw'r naill bartner neu'r llall yn yfed gormod o alcohol yn rheolaidd.
  • Mae hefyd yn bwysig i chi gynnal gwiriadau iechyd rheolaidd, fel hunanarchwilio'r bronnau (menywod) a'r ceilliau (gwrywod).
  • Gwnewch yn siŵr fod eich profion ceg y groth yn gyfredol. Os ydych yn cael canlyniad annormal, mae'n bwysig rhoi sylw i hynny yn gyntaf, a dylid oedi triniaeth ffrwythlondeb a beichiogrwydd. 
  • Dylai'r partner benywaidd sicrhau bod ganddi imiwnedd i Rwbela (y frech Almaenig) gan fod y feirws hwn yn gallu achosi problemau â datblygiad y baban. Mae hyn fel arfer yn cael ei wirio yn y clinig os nad yw'ch meddyg teulu wedi'i wneud. Os nad oes gennych imiwnedd, bydd angen i chi gael brechiad cyn i'r driniaeth ddechrau.
  • Mae'n bwysig i'r ddau bartner fwyta deiet iach a chytbwys. 
  • Dangoswyd bod cymryd atchwanegiadau asid ffolig (menywod) dri mis cyn i chi ddechrau beichiogi ac am 12 wythnos gyntaf y beichiogrwydd yn lleihau'r tebygolrwydd y bydd y baban yn cael ei eni gyda diffygion y tiwb nerfol, fel spina bifida. Y dos dyddiol a argymhellir yw 400microgram y dydd. Gellir prynu asid ffolig mewn unrhyw fferyllfa neu archfarchnad. Efallai y bydd angen dos uwch os oes hanes o spina bifida yn y teulu neu os oes gennych gyflwr meddygol fel epilepsi lle mae meddyginiaeth benodol yn cynyddu'r siawns y gallai hyn ddigwydd. Mae hyn ar gael ar bresgripsiwn yn unig. 
  • Gwiriwch am beryglon yn eich gweithle e.e. cemegau, gweithgareddau corfforol a allai gyfrannu at is-ffrwythlondeb mewn rhai achosion. 
  • Gwnewch ddigon o ymarfer corff a gorffwys. 
  • Ceisiwch leihau gorbryder trwy: 
      • gael y wybodaeth iawn am ymchwiliadau a thriniaeth
      • siarad â'ch gilydd a chefnogi'ch gilydd
      • ceisio cwnsela (sydd ar gael ar gais yn y Ganolfan)
      • gwneud gweithgareddau y mae'r ddau ohonoch yn eu mwynhau
      • cysylltu neu ymuno â grwpiau cymorth cenedlaethol / lleol.
Dilynwch ni