Neidio i'r prif gynnwy

Darlunio Meddygol

Ffotograffydd yn tynnu llun o fraich claf

Ymgymerir â ffotograffiaeth glinigol yn yr ysbyty ac mae'n cefnogi darparu gofal diogel ac effeithiol, o ran diagnosis a monitro, yn ogystal â chefnogi addysgu, ymchwil ac weithiau cyhoeddi. Mae Darlunio Meddygol yn cefnogi darparu gofal diogel ac effeithiol, o ran diagnosis a monitro, yn ogystal â chefnogi addysgu, ymchwil a gweithgareddau corfforaethol.

 

Ble rydym ni?

Lleolir Darlunio Meddygol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, ar y Llawr Daear Uchaf Cyswllt A-B.

Ysbyty Athrofaol Cymru, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd CF14 4XW
Ffôn: 029 2184 3305 / 029 2184 4601

E-bost: medicalillustration.cav@wales.nhs.uk


Pam fod angen ffotograffiaeth glinigol arnaf?

Mae eich clinigwr wedi gofyn i ni dynnu lluniau neu fideo ohonoch fel rhan o'ch gofal. Mae ffotograffau yn rhan hanfodol o'ch cofnodion meddygol ac fe'u defnyddir yn aml i gynllunio triniaeth, i gynorthwyo diagnosis, neu i gofnodi a monitro cynnydd eich cyflwr.

 

Pwy fydd yn tynnu llun ohonof i?

Bydd ffotograffydd sydd wedi derbyn hyfforddiant arbenigol mewn ffotograffiaeth glinigol yn tynnu’r lluniau, ac mae’n bosibl y bydd ffotograffydd meddygol dan hyfforddiant yn cynorthwyo hefyd.

Byddwn yn ceisio sicrhau bod ffotograffwyr gwrywaidd a benywaidd ar gael. Os byddai'n well gennych i rywun o'r un rhyw dynnu eich llun, gofynnwch yn y dderbynfa neu rhowch wybod i'r ffotograffydd. Gall ffrind neu berthynas ddod gyda chi. Os ydych yn dymuno i hebryngwr fod gyda chi, rhowch wybod i aelod o staff.

Mae ffotograffwyr clinigol yn cael eu llywodraethu gan God Ymddygiad ein corff proffesiynol; Sefydliad y Darlunwyr Meddygol, rydym hefyd yn rhan o gofrestr wirfoddol; Academi Gwyddonwyr Gofal Iechyd (AHCS).


Cydsyniad

Dylai eich ymgynghorydd neu'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n eich atgyfeirio ar gyfer ffotograffiaeth glinigol fod wedi esbonio'n union ar gyfer beth y bydd y ffotograffau'n cael eu defnyddio a phwy sy'n debygol o'u gweld. Dylid hefyd fod wedi gofyn i chi lofnodi'r ffurflen 'Cais am ffotograffiaeth glinigol / fideo', os nad ydych wedi llofnodi'r ffurflen rhowch wybod i'r ffotograffydd.

Yn dibynnu ar lefel y cydsyniad rydych wedi’i lofnodi, bydd eich ffotograffau neu recordiad fideo yn cael eu defnyddio ar gyfer un neu fwy o’r canlynol:

  • Lefel 0: Eich cofnodion meddygol yn unig
  • Lefel 1: Eich cofnodion meddygol; addysgu a hyfforddiant meddygol y GIG i staff a myfyrwyr
  • Lefel 2: Eich cofnodion meddygol; addysgu a hyfforddiant meddygol y GIG i staff a myfyrwyr; cyhoeddiadau meddygol (gall hyn gynnwys y rhyngrwyd)

Gallwch dynnu eich cydsyniad yn ôl unrhyw bryd drwy gysylltu â’r adran Darlunio Meddygol, fodd bynnag gyda ffotograffau y rhoddwyd cydsyniad yn flaenorol i’w cyhoeddi efallai na fydd yn bosibl eu tynnu’n ôl o’r parth cyhoeddus.

 

Beth fydd yn digwydd?

Bydd ffotograffiaeth glinigol yn digwydd ym mhreifatrwydd stiwdio bwrpasol yr adran. Bydd y weithdrefn yn cael ei hesbonio i chi ymlaen llaw. Mae'r mannau a fydd yn cael eu recordio wedi'u nodi ar y ffurflen gais. Byddwn yn trafod y golygon ffotograffig neu'r recordiad gyda chi cyn dechrau ac efallai y gofynnir i chi dynnu eitemau o ddillad, gemwaith neu golur. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, mae croeso i chi ofyn i'ch ffotograffydd.

 

A fydd yn cymryd yn hir?

Bydd hyd yr amser yn dibynnu ar eich cyflwr a nifer y ffotograffau sydd eu hangen ond ni fydd yn fwy na 10 munud fel arfer.

 

Oes dewis gennyf?

Oes, os nad ydych yn dymuno cael eich llun wedi’i dynnu neu os byddwch yn newid eich meddwl, ni fydd yn effeithio ar eich gofal na'ch triniaeth mewn unrhyw ffordd.

 

Beth sy'n digwydd i fy ffotograffau / fideo?

Mae pob ffotograff clinigol yn rhan o’ch cofnodion meddygol cyfrinachol. Mae’r holl luniau’n cael eu storio ar weinydd diogel BIP Caerdydd a’r Fro a gellir eu cyrchu a’u defnyddio at y diben rydych chi wedi cydsynio ar ei gyfer yn unig.

Os byddwch angen copi o’ch lluniau clinigol eich hun, gofynnwch yn y dderbynfa neu cysylltwch â'r adran, byddwch yn cael ffurflen, bydd angen cwblhau hon gyda'r holl wiriadau adnabod perthnasol cyn y gellir rhyddhau unrhyw ffotograffau.

Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich lluniau rhwng adrannau o fewn y gwasanaeth iechyd er mwyn gofalu amdanoch yn well. Weithiau efallai y bydd angen i ni drosglwyddo lluniau o dan y gyfraith, neu rannu eich lluniau gyda staff nad ydynt yn rhan o’r GIG, er enghraifft Gwasanaethau Cymdeithasol neu’r Heddlu. Byddai hyn ond yn cael ei wneud os yw'n gwbl angenrheidiol a byddai'n cael ei drafod gyda chi.

 

Adborth

Gobeithio bod eich ymweliad wedi bod yn un cadarnhaol, rydym yn croesawu unrhyw sylwadau neu awgrymiadau a allai wella ein gwasanaeth yn y dyfodol. Gallwch ofyn i’r derbynnydd am ffurflen adborth neu os yw’n well gennych gallwch gysylltu â’r Adran Pryderon drwy e-bost: concerns@wales.nhs.uk neu dros y ffôn: 029 2184 4095 / 029 2184 3301.

 

Gwasanaethau eraill

Mae Darlunio Meddygol yn darparu ystod o wasanaethau cyfryngau i staff Bwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Caerdydd a’r Fro. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys:

  • Dylunio graffeg
  • Gwasanaeth posteri
  • Celf feddygol a darlunio cyffredinol
  • Ffotograffiaeth gyffredinol
  • Fideo ac animeiddio
  • Argraffu

Graffeg

Mae ein hadran graffeg yn cynhyrchu gwybodaeth i gleifion, dogfennaeth glinigol a deunyddiau hyfforddi sy'n chwarae rhan hanfodol wrth roi gofal a thriniaeth i gleifion yn ystod eu harhosiad yn yr ysbyty, mewn apwyntiadau cleifion allanol, ac wrth ddarparu ôl-ofal ar ôl iddynt fynd adref. Gallwn hefyd gynhyrchu adroddiadau blynyddol, ffurflenni rhyngweithiol a ffeiliau digidol ar gyfer sgriniau. Caiff prosiectau eu rheoli o'r cysyniad hyd at yr argraffiad terfynol ac rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'n hadran ffotograffig, a'n huned argraffu ar y safle.


Gwasanaeth posteri

Gall ein gwasanaeth posteri gynhyrchu posteri ar gyfer cyfarfodydd gwyddonol, cynadleddau, ac at ddefnydd hyrwyddo ar bapur sgleiniog o ansawdd uchel, wedi'i brosesu gan argraffydd jet inc fformat mawr, eglurder uchel. Gall y tîm posteri hefyd ddarparu cymorth a chyngor i Drefnwyr Cyfarfodydd / Cynadleddau BIP Caerdydd a'r Fro.

 

Darlunio Meddygol a Chelf Lawfeddygol

Mae ein Hartist Meddygol yn cefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn yr ysbyty drwy gynhyrchu darluniau anatomegol cywir ar gyfer gofal a thriniaeth cleifion, at ddibenion addysgol ac ymchwil.

 

Ffotograffiaeth gyffredinol

Mae ffotograffiaeth gyffredinol yn cynnwys lluniau cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer hyrwyddiadau ac ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd, yn ogystal â phortreadau, ffotograffau o offer a sganio. Rydym yn ymdrin ag ystod eang o bynciau a digwyddiadau, o gyflwyniadau a chynadleddau i bortreadau grŵp. Gall lluniau gael eu darparu ar gyfer cyhoeddiadau, arddangosfeydd, taflenni gwybodaeth gyhoeddus a ffeiliau digidol .
Mae ffotograffiaeth anafiadau personol a materion meddygol/cyfreithiol yn wasanaeth arbenigol i gyfreithwyr a'u cleientiaid.

 

Fideo ac animeiddio

Gallwn gynhyrchu fideos ar gyfer addysgu, hyrwyddo a hyfforddi. Mae ein bwth sain yn ein galluogi i recordio sain o ansawdd uchel i roi ymdeimlad ôl-gynhyrchu proffesiynol. Mae hefyd gennym wasanaeth animeiddio sydd wedi bod yn boblogaidd gydag adrannau sy’n awyddus i helpu cleifion a allai gael anhawster yn darllen gwybodaeth ac y byddai’n well ganddynt rywbeth mwy gweledol i’w cynorthwyo gyda’u gofal.

 

Argraffu

Mae ein hadran argraffu ar y safle yn cynhyrchu llwybrau gofal, gwybodaeth i gleifion a deunydd hyfforddi ar gyfer y BIP. Gallwn hefyd gynnig
amrywiaeth o ddulliau sy’n rhoi gorffeniad i ddogfennau gan gynnwys lamineiddio, plygu a rhwymo. Gall yr Uned Argraffu yn Adain Glan-y-Llyn argraffu a rhoi gorffeniad i’ch holl ddogfennau papur gan gynnwys:

  • Llyfrynnau
  • Llwybrau Gofal
  • Cardiau Busnes
  • Taflenni
  • Llythyron
  • Posteri
  • Labeli
  • Adroddiadau Blynyddol

Gallwn hefyd gynnig gwasanaethau gorffeniad gan gynnwys:

  • Drilio / torri tyllau 
  • Cynhyrchu cardiau â phadin
  • Plygu (hanner plyg, tri-phlyg, plyg-z, plyg-ddalen)
Dilynwch ni