Neidio i'r prif gynnwy

Adran Addysg Feddygol a Deintyddol

Sefydlwyd BIP Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ym mis Hydref 2009, a hwn yw'r Bwrdd Iechyd mwyaf yng Nghymru.

Ym mis Chwefror 2014, unodd yr Adrannau Ôl-raddedig ac Israddedig, gan ffurfio'r Adran Addysg Feddygol a Deintyddol. Mae gan y BIP ddwy Ganolfan Addysg Feddygol a Deintyddol wedi'u lleoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru (YAC) ac Ysbyty Athrofaol Llandochau (YALl).

Mae'r ddwy ganolfan yn darparu'r seilwaith a'r staff i hwyluso Addysg, Hyfforddiant a Datblygiad Parhaus Gweithwyr Proffesiynol Ôl-raddedig mewn Meddygaeth Ysbyty, Ymarfer Cyffredinol a Deintyddiaeth a sicrhau safon uchel o leoliad clinigol i'r myfyrwyr meddygol a chynnig gwasanaeth cymorth i'r clinigwyr gan eu galluogi i gyflenwi addysgu. Mae'n cynnwys gweithio'n agos iawn gydag Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd, a Gwella Addysg Iechyd Cymru (HEIW).


Mae pob canolfan yn cael ei rheoli gan dîm ymroddedig sy'n sicrhau bod safon uchel o Addysg Feddygol yn cael ei darparu ar draws y BIP.

 

Dilynwch ni