Neidio i'r prif gynnwy

Cofrestru gyda Phractis GMS

GP Card

Sut i gofrestru gyda Phractis GMS

Gall unrhyw un yng Nghymru gofrestru gyda meddyg teulu i gael triniaeth (gweler y ddolen isod i weld y meddygon teulu sydd ar gael yng Nghaerdydd a’r Fro).

Yr unig ffurflen sydd angen ei chwblhau er mwyn cofrestru yw ffurflen GMS1 (gweler y dolenni defnyddiol isod) sydd ar gael yn unrhyw bractis.

Nid yw’n angenrheidiol bod â chyfeiriad sefydlog na manylion adnabod i gofrestru, a gall unrhyw un sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu gael presgripsiynau am ddim.

Mae gan unrhyw un sydd angen cyfieithydd yr hawl i wneud cais am un heb orfod talu’r gost ei hun. Mae gan y practis meddyg teulu ddyletswydd i ddarparu cyfieithydd ac mae gwasanaethau cyfieithu dros y ffôn ar gael ym mhob practis meddyg teulu.

Oni bai fod y practis meddyg teulu wedi cau eu rhestr neu eich bod yn byw y tu allan i ardal ffin y practis, ni ellir gwrthod eich cofrestru.

Os bydd meddygfa yn gwrthod eich cofrestru, bydd yn rhaid bod ganddynt resymau da dros wneud hynny. Ni ddylai’r rhain ymwneud â hil, cenedl, dosbarth cymdeithasol, oed, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, ymddangosiad, anabledd na chyflwr meddygol.

Os ydych yn credu bod y feddygfa wedi gwrthod eich cofrestru am unrhyw un o’r rhesymau canlynol; hil, rhyw, dosbarth cymdeithasol, oed, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, ymddangosiad, anabledd neu gyflwr meddygol gallai hyn fod yn achos o wahaniaethu. I gael rhagor o gyngor ynghylch hyn dilynwch y ddolen hon: Gwahaniaethu mewn gwasanaethau iechyd a gofal - Tudalen Gartref (citizensadvice.org.uk) 

 

Dolenni defnyddiol

I gael rhestr o bractisau meddygon teulu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro dilynwch y ddolen hon: Iechyd yng Nghymru | Practisau Meddygon Teulu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

 

I gael gafael ar ffurflen GMS 1, dilynwch y ddolen hon:  GMS1 - GOV.UK (www.gov.uk)

Dilynwch ni