Neidio i'r prif gynnwy

Canmol a Chwyno

Feedback
Y Tîm Pryderon

Os ydych yn anfodlon ar y driniaeth neu’r gofal rydych yn ei dderbyn, byddem yn eich annog i godi eich pryderon cyn gynted â phosibl, yn ddelfrydol gyda’r staff uwch sydd ar ddyletswydd ar adeg y digwyddiad. Fel arall, cysylltwch ag aelod o’r Adran Pryderon a byddant yn hapus i drafod eich pryderon gyda chi a’u trosglwyddo i’r adran berthnasol.

Mae’r Swyddfa Pryderon ar agor rhwng 9am a 5pm (dydd Llun i ddydd Gwener). Ffoniwch ar y rhifau ffôn canlynol yn ystod oriau swyddfa os hoffech siarad ag aelod o’r Tîm Pryderon.

  • 029 218 36318 
  • 029 218 36319
  • 029 218 36323 
  • 029 218 36340 

Gallwch hefyd lenwi’r Ffurflen Pryderon, e-bostio’r tîm yn concerns@wales.nhs.uk neu ysgrifennu atynt ar y cyfeiriad canlynol: Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Ffordd Maes y Coed, Llanisien, CF14 4HH.

Canmoliaethau

Er mwyn i chi ein helpu ni, rydym yn annog awgrymiadau, boed yn dda neu’n wael. Mae canmoliaeth yn hybu morâl y staff ac yn helpu i gynnal safonau uchel.

Os ydych yn hapus i ni gynnwys eich canmoliaeth ar ein gwefannau cyfryngau cymdeithasol, gadewch i ni wybod pan fyddwch yn cysylltu â ni. Fodd bynnag, gallwch aros yn anhysbys os byddai’n well gennych, neu gallwn gynnwys eich enw os ydych yn hapus i ni wneud hynny.

Cyfeiriwch unrhyw ganmoliaethau at Rhisian Otley - Rheolwr Gweithredol ar Rhisian.Otley2@wales.nhs.uk neu ysgrifennwch at Miss Rhisian Otley, Gwasanaeth Cynhwysiant Iechyd Caerdydd a’r Fro, Ysbyty Brenhinol Caerdydd, Caerdydd, CF24 0JT

 

Dilynwch ni