Mae Gwasanaeth Cynhwysiant Iechyd Caerdydd a’r Fro (CAVHIS) yn wasanaeth newydd sydd wedi’i ddatblygu, a fydd yn lansio ddydd Mawrth 28 Medi 2021. Mae’n cynnwys ehangu ac ail-frandio Practis Mynediad i Ofal Iechyd Caerdydd (CHAP) sydd wedi’i leoli yn Ysbyty Brenhinol Cymru. Roedd y gwasanaeth gwreiddiol yn canolbwyntio ar ddarparu asesiad iechyd a gwasanaeth sgrinio iechyd y cyhoedd ar gyfer ceiswyr lloches ar gam cychwynnol proses asesu’r Swyddfa Gartref. Bydd y model gwasanaeth diwygiedig yn darparu mynediad i wasanaeth sgrinio iechyd y cyhoedd a chymorth tymor byr i garfan ehangach o unigolion sy’n ei chael yn anodd cael gafael ar ofal iechyd, ac sydd heb gofrestru â meddyg teulu. Mae CAVHIS yn bwriadu darparu’r gwasanaeth hwn â thosturi, gan drin pob unigolyn â pharch ac urddas. Yn ogystal, mae’r gwasanaeth yn darparu ar gyfer anghenion unigolion nad oes modd diwallu eu hanghenion gwasanaeth meddygol cyffredinol o fewn practisau meddygon teulu lleol o ganlyniad i bryderon ynghylch diogelwch a risg. Cyfeirir at yr elfen hon o’r gwasanaeth fel y Cynllun Triniaeth Amgen (ATS).