Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau Cyffredin

Pwy fyddaf yn ei weld?test

Pan fyddwch yn dod i gael eich asesiad, byddwch yn cael eich gweld gan un o'n Gweithwyr Ymgysylltu profiadol ar sail un i un mewn amgylchedd cwbl gyfrinachol a diogel. Ond mae croeso i chi ddod â rhywun i mewn gyda chi hefyd. Nid yw ein Gweithwyr Ymgysylltu'n barnu, ac maen nhw'n awyddus i'ch helpu i ddod o hyd i'r cymorth y mae arnoch ei angen i greu dyfodol sy'n iawn i chi.

Beth allaf ei ddisgwyl?

Gallwch ddisgwyl cael asesiad cyfrinachol a phreifat gydag un o'n Gweithwyr Ymgysylltu.

Yn ystod yr asesiadau, bydd angen i ni ofyn cwestiynau i chi am eich ffordd bresennol o fyw. Bydd yr asesiadau'n cynnwys cwestiynau am eich defnydd o sylweddau, eich iechyd a'ch amgylchiadau cymdeithasol. Mae'r asesiadau hyn yn para tua 30 munud.
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i weithio gyda chi i ddod o hyd i'r cymorth mwyaf priodol i'ch helpu ar eich taith tuag at wella.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Ar ôl yr asesiad, byddwn yn cwblhau'r broses atgyfeirio ac yna bydd y gwasanaethau priodol yn cysylltu â chi i drefnu eu pecyn cymorth.
Rydym yn atgyfeirio i nifer o asiantaethau, gan gynnwys y canlynol, ond nid yn gyfyngedig iddynt:
  • Taith
  • Yr Uned Ddibyniaeth Gymunedol (CAU)
  • Y Tîm Gweinyddu a Thrin (DATT)
  • Recovery Cymru
  • Footsteps to Recovery
Mae pob un o'r gwasanaethau rydym yn atgyfeirio iddynt yn arbenigo mewn amryw fathau o driniaeth, yn amrywio o leihau niwed (cyngor a gwybodaeth), ymyriadau seicolegol (gan gynnwys gwaith grŵp), darpariaethau ôl-ofal sy'n gweithio i atal ailwaelu, i driniaethau meddyginiaethol ar wahanol gamau gwella, ac yn defnyddio gwahanol ddulliau i gynorthwyo pobl ar hyd eu taith. Drwy gydol ein hasesiadau, byddwn yn sicrhau ein bod yn rhoi'r holl wybodaeth y mae arnoch ei hangen i wneud penderfyniad gwybodus am eich camau nesaf a'ch llwybr atgyfeirio ymlaen.

Sut gallaf drefnu apwyntiad gydag EDAS?

Gallwch atgyfeirio eich hun i EDAS trwy ein ffonio ni ar 0300 300 7000 (opsiwn 2). Yn ystod yr alwad ffôn hon, byddwn yn cymryd eich manylion sylfaenol ac yna'n trefnu apwyntiad. Fel arfer, rhoddir apwyntiadau ar gyfer yr un wythnos, felly ni ddylech orfod aros yn rhy hir.
Rydym hefyd yn cynnal clinigau galw heibio ar ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Iau. Ar y diwrnodau hyn, gallwch alw heibio i EDAS rhwng 10 a 12 neu rhwng 1 a 3pm a byddwn yn gwneud ein gorau i'ch gweld y diwrnod hwnnw.

 


 

Dilynwch ni