Neidio i'r prif gynnwy

Adran Imiwnoleg - Ysbyty Athrofaol Cymru

Mae’r Adran Imiwnoleg yn darparu gwasanaeth eang ar gyfer ymchwilio, rhoi diagnosis a thrin cyflyrau sy’n deillio o gamweithrediad y system imiwnedd. Mae integreiddio gwasanaethau labordy a chlinigol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaeth profi arloesol yn y labordy, sy’n hanfodol wrth roi diagnosis ar gyfer clefydau imiwnyddol cymhleth, a’u monitro. Yn glinigol, mae dau brif faes yr ydym yn arbenigo ynddynt: Alergedd a diffyg imiwnedd sylfaenol.

Alergedd

Mae alergedd yn deillio o ymateb imiwnyddol i sylwedd a fyddai’n ddiogel fel arall. Rydym yn cynnig clinigau cleifion allanol ar gyfer rhoi diagnosis a rheoli alergeddau, yn cynnwys imiwnotherapi dadsensiteiddio lle bo’n briodol. Anaffylacsis yw elfen fwyaf difrifol clefyd alergaidd, ac mae canllawiau Cyngor Dadebru’r DU yn datgan y dylai pob claf sydd wedi dioddef achos o anaffylacsis gael ei atgyfeirio at glinig alergedd arbenigol er mwyn nodi unrhyw sbardunau, lleihau’r risg o achosion yn y dyfodol a pharatoi’r claf i reoli unrhyw achosion yn y dyfodol.

Mae’r adran hefyd yn cynnig triniaeth i gleifion sydd ag wrticaria ac angioedema nad yw’n alergaidd (er enghraifft wrticaria digymell cronig).

Crynodeb o wasanaethau:

  • Anaffylacsis
  • Wrticaria
  • Angioedema
  • Alergeddau bwyd
  • Aeroalergenau (e.e dander anifeiliaid, peilliau)
  • Ymchwilio a diagnosis
  • Rheoli
  • Imiwnotherapi dadsensiteiddio=

Diffyg imiwnedd sylfaenol - Canolfan Diffyg Imiwnedd Cymru

Mae diffyg imiwnedd sylfaenol (PID) yn cynrychioli sbectrwm eang o gyflyrau a difrifoldeb. Mae diagnosis a thriniaeth brydlon yn hanfodol i helpu i osgoi niwed i organau terfynol fel bronciectasis. Ceir oedi sylweddol yn aml mewn diagnosis ac mae angen mynegai uchel o amheuaeth i ganfod y cyflyrau prin hyn. Mae’r Gymdeithas Diffyg Imiwnedd Ewropeaidd wedi cyhoeddi canllaw defnyddiol ar ddiagnosis PID i helpu i nodi’r rhai hynny allai elwa ar ymchwiliad pellach.

Crynodeb o wasanaethau:

  • Darparwr Gwasanaethau PID i Oedolion a Phlant yng Nghymru
  • Ymchwilio, rhoi diagnosis a rheoli pob ffurf ar PID
  • Achosion dydd ar gyfer trwythiadau imiwnoglobin a therapïau biolegol eraill
  • Cydgysylltu ag ysbytai lloeren i ddarparu therapi amnewid imiwnoglobin lleol
  • Hyfforddiant a chydlynu therapi cartref

Gwasanaethau labordy

Mae’r Labordy Imiwnoleg yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn cynnal dros 250,000 o brofion y flwyddyn i alluogi clinigwyr i roi diagnosis a monitro ystod eang o gyflyrau imiwnoleg yn cynnwys alergeddau, diffyg imiwnedd ac awtoimiwnedd. Rydym hefyd yn cynnig ystod gynhwysfawr o brofion ategol. Ceir gwybodaeth bellach ar Wefan y Labordy Imiwnoleg

Dilynwch ni