Neidio i'r prif gynnwy

Opsiynau hyfforddiant a datblygiad dementia

E-ddysgu

  • Canllaw cyfathrebu: 'Cipolwg' ar Ddementia (5 munud)
  • Stori Barbara - Mae stori Barbara yn dilyn rhywun sydd â dementia ar ei thaith trwy'r ysbyty. Mae'r fideo yn helpu pobl i ddeall pa mor frawychus a dryslyd mae'r profiad yn gallu bod, a sut mae newidiadau bach a wneir gan staff yn gallu gwneud gwahaniaeth enfawr. 

 

DS - Gall staff sy'n mynd at y dudalen hon o un o gyfrifiaduron y GIG wylio'r fideo o dudalen Newyddion a Digwyddiadau'r Tîm Iechyd y Cyhoedd ar safle'r Fewnrwyd (er na fydd gan bob cyfrifiadur gerdyn sain).

  • Hyfforddiant ymwybyddiaeth o ddementia GIG Cymru (30-40 munud) - mae'r modiwl defnyddiol hwn yn addysgu hanfodion dementia i bobl ac mae cwisiau difyr i'w cwblhau ar y ffordd. Bydd angen i staff chwilio am 'ymwybyddiaeth o ddementia', mewngofnodi a rhoi cod cofrestru Caerdydd a'r Fro i'w ddechrau.
  • Hyfforddiant ar y Ddeddf Galluedd Meddyliol - mae'r cwrs e-ddysgu hwn ar y Ddeddf Galluedd Meddyliol ar safle dysgu'r GIG yn rhoi dealltwriaeth sylfaenol o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005, sy'n hanfodol i ddarparu triniaeth a gofal cyfreithlon, o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i bobl sydd â dementia. Mae sesiynau dysgu ar y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn cael eu cynnal yn rheolaidd ar draws y Bwrdd Iechyd Prifysgol hefyd - gweler y prosbectws Dysgu, Addysg a Datblygiad i gael rhagor o fanylion.
  • Gofal deintyddol – Mae gofal deintyddol yn bwysig iawn i rywun sydd â dementia. Gall poen deintyddol arwain at ymddygiad sy'n herio.
  • Cerdd am ddementia - Mae'r gerdd ysbrydoledig hon gan Caregiver's Voice yn dod o safbwynt rhywun sy'n byw gyda dementia

Hyfforddiant wyneb yn wyneb

  1. Cyfeillion Dementia (45 munud i 1 awr) - Pob aelod o staff NEU
  2. Hyfforddiant dementia - Lefel sylfaenol (hyd at 2 awr) - Pob aelod o staff NEU
  3. Hyfforddiant dementia - Dysgu hanfodol (hyd at 4 awr) - Staff sy'n cael mwy o gysylltiad â chleifion sydd â dementia.
Dilynwch ni