Neidio i'r prif gynnwy

Hyfforddiant a Datblygiad Dementia

Mae dementia yn gyflwr cymhleth sy'n gofyn am ofal cefnogol yn yr amgylchedd iawn. Er mwyn i bobl sydd â dementia gael gofal o ansawdd da, rydym yn ceisio cynyddu ymwybyddiaeth o ddementia.


Mae gan bob Bwrdd Clinigol yn y sefydliad o leiaf un Hyrwyddwr Dementia. Lansiwyd Rhwydwaith Hyrwyddwyr Dementia ym mis Hydref 2014. Yng nghyfarfod mis Mai 2015, cytunwyd ar Becyn Cymorth Dementia a fframwaith opsiynau hyfforddiant a datblygiad dementia, wrth ymateb i fandad gan Lywodraeth Cymru.


Mae ymwybyddiaeth o ddementia eisoes yn derbyn sylw mewn nifer o sesiynau addysgol ar draws y Bwrdd Iechyd Prifysgol, a hoffem rannu rhywfaint o'r wybodaeth honno gyda phawb.


Rydym yn gofyn i'n Byrddau Clinigol ddefnyddio ymagwedd hyfforddi'r hyfforddwr yn eu meysydd. Teimlwn hefyd fod rhannu'r wybodaeth hon yn ehangach na'n sefydliad ni yn helpu i ddangos i'n cymuned y ffordd orau o helpu pobl sydd â dementia, neu eu gofalwyr.

Dilynwch ni