Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Rhyddhau Cynnar gyda Chymorth (Strôc)

Brain shape with lit-up nerve structures

Tîm amlddisgyblaethol sy'n darparu cyfraniad strôc arbenigol i gleifion yn y gymuned yw'r Gwasanaeth Rhyddhau Cynnar gyda Chymorth (ESD). Nod y gwasanaeth yw cefnogi rhyddhad cynnar o safle'r ysbyty. Gwasanaeth 6 wythnos ydyw a gall y tîm atgyfeirio ymlaen os oes angen gwasanaeth pellach. 

Ein Tîm

  • Ymgynghorydd
  • Ffisiotherapyddion
  • Therapyddion Lleferydd ac Iaith
  • Nyrs
  • Cynorthwywyr Adsefydlu
  • Therapyddion Galwedigaethol
  • Y Gymdeithas Strôc
  • Seicolegydd.

Cawn atgyfeiriadau o Ward A6 yn Ysbyty Athrofaol Cymru a'r Ganolfan Adsefydlu wedi Strôc yn Ysbyty Athrofaol Llandochau. Derbyniwn atgyfeiriadau hefyd ar gyfer cleifion strôc a dderbyniwyd i wardiau eraill yn y BIP os ydynt yn bodloni'r meini prawf Rhyddhau Cynnar gyda Chymorth ac os oes ganddynt nodau adsefydlu parhaus.

Meini Prawf Atgyfeirio

I gael at y gwasanaeth hwn, rhaid bod cleifion yn bodloni'r meini prawf canlynol:

  • Dros 18 oed.
  • Diagnosis clinigol o strôc newydd wedi'i gadarnhau gan ymgynghorydd neu sgan o fewn y 12 wythnos ddiwethaf, nid TIA.
  • Wedi cofrestru gyda meddyg teulu yn ardal Caerdydd a'r Fro.
  • Rhaid byw yn ardal Caerdydd a'r Fro.
  • Cydsynio i'r atgyfeiriad i'r gwasanaeth Rhyddhau Cynnar gyda Chymorth.
  • Gallu cyfranogi'n weithgar mewn adsefydlu yn y cartref a gallu adnabod nodau.
  • Digon o allu gwybyddol a chyfathrebu i fod yn ddiogel gartref gyda chymorth priodol.
  • Mae'r holl gyfarpar angenrheidiol yn ei le cyn rhyddhau gartref. 
  • Yn feddygol sefydlog ar gyfer rhyddhad.
  • Aseswyd bod namau strôc yn rhai ysgafn i gymedrol.
  • O leiaf, dylai'r claf allu trosglwyddo gyda chymorth cyfarpar 1+/- (golyga hyn fod rhaid i'r claf allu trosglwyddo gyda chymorth un person neu heb gymorth darn o gyfarpar, e.e. teclyn codi) 
  • Dylai'r claf fod yn ymataliol, neu fel arall mae angen cael cynllun ymataliad ar waith. 
  • Sicrhau bod gan y claf y feddyginiaeth a roddwyd ar bresgripsiwn a bod cerdyn Gwyrdd / Paciau pothellog wedi'u darparu os oes angen. Mae angen bod cynllun meddyginiaeth yn ei le.

Ni dderbyniwn gleifion sy'n byw mewn Cartrefi Preswyl neu Nyrsio.

Cawn atgyfeiriadau hefyd o safleoedd cleifion mewnol drwy eu Tîm Amlddisgyblaethol. 

Dilynwch ni