Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwasanaeth Niwroseicoleg Glinigol

Gweithiwn ochr yn ochr â gwasanaethau meddygol eraill i: 

  • wneud diagnosis o gyflyrau niwrolegol
  • helpu defnyddwyr gwasanaeth a'u teuluoedd i ddatblygu strategaethau i wneud iawn am gyfyngiadau gwybyddol penodol
  • hwyluso derbyniad seicolegol/addasu i'r newidiadau sydd wedi'u creu gan y cyflwr niwrolegol
  • addysgu am newidiadau niwroseicolegol (gan gynnwys newidiadau personoliaeth)
  • a galluogi pobl i ymdopi ag ôl-effeithiau emosiynol

Cynigiwn glinigau asesu ac, os yw'n briodol, therapi un ac un sy'n canolbwyntio ar nodau ac ymyriadau grŵp. Ein nod yw meithrin cysylltiadau â gwasanaethau addas eraill er mwyn sicrhau cymorth parhaus i'r claf.

Mae niwroseicoleg yn ymwneud â'r berthynas rhwng yr ymennydd a gwybyddiaeth (prosesau lefel uwch fel dysgu, cof a deallusrwydd), ymddygiad ac emosiynau. Dyma'r ymyriadau y gallwn eu cynnig gan ddibynnu ar eich anghenion a'r math o wasanaeth rydych yn ei gael. 

Asesiad niwroseicolegol

Asesiad o'ch galluoedd cofio a meddwl yw asesiad niwroseicolegol. Gall helpu i roi dealltwriaeth gliriach o'r rhesymau dros anawsterau unigolyn a gall hysbysu unrhyw gymorth pellach a gynigir i helpu i fynd i'r afael â'r anawsterau a'u rheoli. Mae hefyd yn helpu i hysbysu ymyriadau llawfeddygol neu feddygol. Mae asesiadau niwroseicolegol yn cyfrannu gwybodaeth werthfawr sy'n gallu helpu cydweithwyr meddygol i ddeall symptomau a gyflwynir ac arwain at ddiagnosis cywir. 

Asesiad a therapi seicolegol

Rydym yn asesu sut mae pobl yn teimlo a meddwl, er mwyn eu helpu i ddod i delerau â'u cyflwr. Defnyddiwn amrywiaeth o wahanol dechnegau a dulliau therapiwtig, sy'n gallu cynnwys therapïau siarad a gwaith anuniongyrchol drwy dimau staff. 

Niwroadsefydlu

Gweithiwn gyda phobl i gael gwybod eu nodau ac i ddatblygu cynllun gweithredu i'w helpu i symud ymlaen. Gallai hyn gynnwys dysgu strategaethau ymarferol i reoli blinder, anawsterau gwybyddol a phroblemau hwyliau.

Rheoli ymddygiad

Gallwn weithio gyda phobl eraill (staff, gofalwyr) i'w helpu i ddeall ymddygiad cymhleth ac i ddatblygu'r dulliau gorau o helpu'r sawl â'r cyflwr niwrolegol. 

Grwpiau hunangymorth

Mewn rhai safleoedd gwasanaeth ceir cyfleoedd am waith grŵp sy'n canolbwyntio ar ddysgu technegau hunangymorth a rhannu profiadau. 

Therapi i ofalwyr, teuluoedd a pharau

Efallai y cynigiwn ymyriadau penodol i helpu perthnasau a gofalwyr i addasu i newidiadau yn eu perthynas â'r unigolyn, sy'n gysylltiedig â chyflwr niwrolegol. 

Timau staff

Gweithiwn hefyd gyda thimau staff a darparwn hyfforddiant sgiliau seicolegol, gwasanaeth ymgynghori, cymorth gyda materion anodd a dulliau tîm.

Dilynwch ni