Neidio i'r prif gynnwy

Niwroseicoleg Glinigol

Mae'r Adran Niwroseicoleg Glinigol yn gweithio ochr yn ochr â gwasanaethau cleifion mewnol a chleifion allanol ar draws y Gyfarwyddiaeth Niwrowyddorau i gefnogi pobl y cafwyd newidiadau neu niwed i'w hymennydd o ganlyniad i gyflwr niwrolegol.  

Byddwn hefyd yn asesu pobl lle mae diagnosis o gyflwr niwrolegol yn aneglur. 

Gwasanaethau y Cydweithiwn â Hwy

Cleifion Mewnol

  • Wardiau Niwroleg a Niwrolawdriniaeth, Ysbyty Athrofaol Cymru
  • Uned Niwroadsefydlu, Ysbyty Rookwood

Cleifion Allanol

  • Tîm Anafiadau Ymennydd Cymunedol, Ysbyty Rookwood
  • Rhaglen Llawdriniaeth Epilepsi, Ysbyty Athrofaol Cymru
  • Clinig Cleifion Allanol Niwrolawdriniaeth, Ysbyty Athrofaol Cymru
  • Clinig Cleifion Allanol Niwroleg, Ysbyty Athrofaol Cymru
  • Gwasanaeth Llid Niwrolegol/Gwasanaeth MS, Ysbyty Athrofaol Cymru
  • Gwasanaeth Anhwylder Trawiadau Nad ydynt yn Rhai Epileptig, Ysbyty Rookwood

Yr Hyn a Wnawn

Mae niwroseicoleg yn ymwneud â'r berthynas rhwng yr ymennydd a gwybyddiaeth (prosesau lefel uwch fel dysgu, cof a deallusrwydd), ymddygiad ac emosiynau. Mae ein gwaith yn cynnwys:

  • Asesu niwroseicolegol (i gynorthwyo diagnosis o gyflwr niwrolegol, asesu galluedd meddyliol, rhoi cyngor galwedigaethol neu hysbysu ymyriad llawfeddygol/meddygol)
  • Asesiad seicolegol o hwyliau ac ymddygiad
  • Niwroadsefydlu
  • Rheoli Ymddygiad
  • Therapi Seicolegol (CBT/Ymwybyddiaeth Ofalgar/ACT/Dulliau Seicolegol Cadarnhaol)
  • Grwpiau Hunangymorth
  • Gwaith Addasu
  • Gwaith Teulu / Therapi i Barau

Gweithiwn hefyd gyda thimau staff a darparwn hyfforddiant sgiliau seicolegol, gwasanaeth ymgynghori, cymorth gyda materion anodd a dulliau tîm.

Gwasanaethau rhanbarthol yw rhai o'r gwasanaethau sy'n gweithio gyda ni, ac efallai bydd Niwroseicolegwyr yn gweld pobl sy'n byw yng Nghaerdydd a'r Fro a phobl o fyrddau iechyd eraill ledled Cymru.

Ein Meini Prawf

Dim ond gan Niwrolawfeddygon Ymgynghorol, Niwrolegwyr, Nyrsys Arbenigol, Meddygon Adsefydlu a Niwroseicolegwyr eraill BIP Caerdydd a'r Fro y derbynnir atgyfeiriadau. Efallai y byddwn yn ystyried atgyfeiriadau gan feddygon teulu os yw un o'r gweithwyr proffesiynol a restrir uchod yn gweithio ar hyn o bryd gyda'r defnyddiwr gwasanaeth.

Ein Nodau

Nod y tîm yw helpu defnyddwyr gwasanaeth a'u teuluoedd i ddatblygu strategaethau i wneud iawn am gyfyngiadau gwybyddol penodol, hwyluso derbyniad seicolegol/addasu i'r newidiadau sydd wedi'u creu gan y cyflwr niwrolegol, addysgu am newidiadau niwroseicolegol gan gynnwys newidiadau personoliaeth, a galluogi pobl i ymdrin ag ôl-effeithiau emosiynol. Mae clinigau asesu, therapi un ac un sy'n canolbwyntio ar nodau ac ymyriadau grŵp ar gael i'r defnyddwyr gwasanaeth. Gwneir cysylltiadau â gwasanaethau addas eraill.  

Cysylltu â Ni

Dilynwch ni