Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Nyrsio Plant Cymunedol Integredig

Gair Amdanom Ni 

Mae'r Gwasanaeth Nyrsio Plant Cymunedol Integredig yn cwmpasu nifer o ddarpariaethau gwasanaeth o fewn un strwythur cyffredinol a elwir ICCNS. 

Mae ein gwasanaethau'n cynnwys y canlynol: 

  • Mae'r Gwasanaeth Nyrsio Plant Cymunedol (CCNS) yn darparu seibiant i deuluoedd plant ag anghenion iechyd cymhleth ac anhwylderau sy'n cyfyngu ar fywyd, a hwnnw yn eu cartrefi gyda chymorth staff cymwysedig a staff heb gymhwyso. Mae'r tîm hwn hefyd yn darparu gwasanaeth ar alwad 24 awr ar gyfer cymorth ychwanegol.  
  • Gwasanaeth Nyrsio Cyswllt Cymunedol i Blant (CCLNS) sy'n bodloni anghenion gofal acíwt plant yn agosach i gartref. 
  • Nyrsys Ysgol Arbennig, sydd mewn ysgolion arbennig ledled Caerdydd a'r Fro, sy'n cefnogi gofal iechyd plant ag anghenion iechyd cymhleth mewn safleoedd addysg.  
  • Nyrsys Arbenigol Clinigol Paediatrig sy'n darparu gofal diwedd oes i blant ag anghenion iechyd cymhleth yn y safle acíwt a chymunedol.  
  • Hyfforddwyr Rhieni Wellchild sy'n darparu sgiliau clinigol ac addysg i gefnogi teuluoedd sy'n gofalu am eu plant ag anghenion ychwanegol gartref.  
  • Gweithwyr Cymorth Iechyd ac Addysg sy'n darparu cymorth un ac un o fewn safleoedd addysgol i blant ag anghenion iechyd ychwanegol.   
  • Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd sy'n cefnogi clinigau Niwroddatblygiad yn Ysbyty Dewi Sant 
  • Nyrsys Bwydo gyda Thiwb sy'n darparu cymorth arbenigol i deuluoedd â phlant y mae gofyn eu bwydo gyda thiwb.  
  • Nyrsys Cyswllt Rhyddhau Wellchild sy'n cefnogi'r broses o ryddhau plant ag anghenion iechyd cymhleth yn ddiogel i'r safle cymunedol  
     


Dychwelyd i'r Gwasanaethau Iechyd Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd

Dilynwch ni