Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Niwroddatblygiadol

Gair Amdanom Ni

Mae'r Gwasanaeth Niwroddatblygiad Plant a Phobl Ifanc yn darparu asesiad, ymyriad, gwybodaeth a chyngor amlddisgyblaethol i blant a phobl ifanc sydd ag anhwylder niwroddatblygiadol efallai, a'u teuluoedd. 

Efallai y bydd angen i'ch plentyn weld gwahanol weithwyr proffesiynol i gwblhau ei asesiad angen, er enghraifft - Therapydd Galwedigaethol, Therapydd Lleferydd ac Iaith, Seicolegydd Clinigol, Nyrs Arbenigol, Seiciatrydd Plant neu Baediatregydd. Efallai y bydd y broses asesu'n cymryd ychydig o amser i'w chwblhau, oherwydd weithiau efallai bydd angen trefnu ymweliad ag ysgol eich plentyn, a gweld eich plentyn yn y Ganolfan Plant hefyd. Trowch at y ddogfen isod i gael gwybod rhagor am y broses asesu.

Mae anhwylderau niwroddatblygiadol yn cynnwys:

  • Anhwylder yn y Sbectrwm Awtistig
  • Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd

Gweithiwn yn agos gyda'n sefydliadau partner fel ysgolion, yr awdurdod addysg, gwasanaethau cymdeithasol, a sefydliadau'r trydydd sector, ac anelwn at fodloni anghenion plant, pobl ifanc a'u teuluoedd mewn modd effeithiol a chyfannol. 

Sut mae cael at y gwasanaeth

Mae'r gwasanaeth yn ymdrin â holl ardaloedd Caerdydd a Bro Morgannwg ac mae ar gael drwy un pwynt atgyfeirio yn y Ganolfan Plant, Ysbyty Dewi Sant. 

Siaradwch â'ch meddyg teulu, gweithiwr iechyd proffesiynol fel ymwelydd iechyd, neu'r ysgol os ydych yn poeni bod anhwylder niwroddatblygiad ar eich plentyn chi efallai - byddant yn gallu eich atgyfeirio i'r gwasanaeth gyda'ch caniatâd.

Sut mae dod o hyd i ni

Y Ganolfan Plant
Ysbyty Dewi Sant
Treganna
Caerdydd
CF11 9XB

Teleffon: 029 21836796
 

Adnoddau

Taflen Wybodaeth am y Gwasanaeth Niwroddatblygiadol (Tachwedd 2019) (dogfen Saesneg yn unig)

Daeth nifer o wasanaethau yn y gyfarwyddiaeth ynghyd i gynhyrchu'r adnoddau canlynol: 

Dolenni defnyddiol

ASDinfoWales

Safle cenedlaethol ar gyfer Anhwylderau yn y Sbectrwm Awtistig
https://www.asdinfowales.co.uk/


Y Sefydliad Ymchwil i Awtistiaeth

Gwybodaeth am arwyddion cynnar, symptomau, asesiad a thriniaeth.
https://www.autism.org.uk/


Elusen Niwroamrywiaeth y Sefydliad ADHD 

Gwasanaeth iechyd ac addysg integredig.
https://www.adhdfoundation.org.uk/


AP Cymru – yr Elusen Awtistiaeth

Yn darparu cymorth uniongyrchol, pwrpasol i unigolion awtistig a'u teuluoedd.
https://apcymru.org.uk/


Partneriaeth ADHD y DU

Yn cefnogi clinigwyr a gweithwyr proffesiynol perthynol i nodi a bodloni anghenion plant a phobl ifanc y mae'r anhwylder hwn yn effeithio arnynt.
https://www.ukadhd.com/


Plant ac Oedolion ag ADHD

Sefydliad di-elw mwyaf blaenllaw'r DU i'r rheini y mae ADHD yn effeithio arnynt.
https://chadd.org/
 


Dychwelyd i'r Gwasanaethau Iechyd Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd

 

Dilynwch ni