Neidio i'r prif gynnwy

Gofal Parhaus i Blant a Phobl Ifanc

Gofal Parhaus i Blant a Phobl Ifanc Gofal Parhaus i Blant a Phobl Ifanc Gofal Parhaus i Blant a Phobl Ifanc

Cyfarwyddir Gofal Parhaus gan Ganllawiau ar gyfer Gofal Parhaus i Blant a Phobl Ifanc (Ion 2020) Llywodraeth Cymru.

Efallai bydd pecyn gofal parhaus yn ofynnol pan fydd gan blentyn neu berson ifanc anghenion iechyd hirdymor sy'n deillio e.e. o anableddau corfforol a dysgu, anghenion iechyd meddwl, anhwylder niwroddatblygiadol ac ymddygiadau y gellid ystyried eu bod yn heriol ac nad ellir eu bodloni gan wasanaethau cyffredinol neu arbenigol presennol yn unig. 

(Gweler y ddogfen yn Adnoddau am enghreifftiau o'r gwasanaethau hyn).

Nid yw diagnosis o glefyd neu anhwylder penodol yn pennu ynddo'i hun fod angen gofal parhaus. 

Mae'r canllawiau'n ymdrin â phobl ifanc hyd at eu pen-blwydd yn 18. Wedyn, dylid defnyddio Fframwaith Gofal Iechyd Parhaus y GIG i Oedolion yng Nghymru ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG a Gofal Nyrsio a Ariennir gan y GIG a'r canllawiau a'r offer ategol.

Mae gwahaniaethau sylweddol rhwng gofal parhaus i blant a phobl ifanc a Gofal Iechyd Parhaus y GIG i Oedolion. Er bod plentyn neu berson ifanc efallai'n cael pecyn Gofal Parhaus, efallai na fydd yn gymwys am Ofal Iechyd Parhaus y GIG i Oedolion neu Ofal Nyrsio a Ariennir gan y GIG pan fydd yn 18.

Sut mae cael at y gwasanaeth

Os ydych chi'n credu bod eich plentyn efallai'n gymwys am gymorth Gofal Parhaus i Blant a Phobl Ifanc, cysylltwch â'ch gweithiwr cymdeithasol, neu unrhyw weithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol proffesiynol arall sy'n ymwneud â gofal eich plentyn, am gyngor. Os yw'n briodol, bydd yn gwneud atgyfeiriad i Wasanaeth Gofal Parhaus i Blant a Phobl Ifanc Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. 

Proses i Asesu Cymhwyster am Ofal Parhaus i Blant a Phobl Ifanc

  • Mae gofyn inni gael caniatâd rhiant er mwyn inni gasglu gwybodaeth berthnasol gan y gweithwyr proffesiynol sy'n gofalu am eich plentyn. 
  • Ar ôl cael caniatâd, bydd y gweithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol proffesiynol sy'n atgyfeirio yn llenwi ffurflen atgyfeirio y mae angen ei hanfon at y Rheolwr Gofal Parhaus i Blant a fydd, ynghyd â chydweithwyr amlasiantaeth, yn penderfynu a oes angen asesiad llawn ai peidio. 
  • Os nodir asesiad amlasiantaeth llawn, bydd y Rheolwr Gofal Parhaus a nyrs-aseswr a ddyrannir yn trefnu cael asesiadau, adroddiadau a gwybodaeth amlasiantaeth gan dîm amlddisgyblaethol y plentyn neu berson ifanc a bydd Offeryn Cefnogi Penderfyniad Gofal Parhaus yn cael ei gwblhau. Gwahoddir y plentyn/person ifanc, ei Rieni a/neu gynrychiolydd i gyfrannu at yr asesiad a rhoi eu barn.
  • Ar ôl cwblhau'r offeryn cefnogi penderfyniad, bydd y tîm amlddisgyblaethol yn gwneud argymhelliad ynghylch cymhwyster a phecyn gofal arfaethedig.
  • Cyflwynir yr argymhelliad i'r fforwm Gofal Parhaus Amlasiantaeth a fydd yn cefnogi neu'n ceisio gwybodaeth bellach, ar sail yr holl dystiolaeth a gwybodaeth ategol a gafwyd gan rieni, gofalwyr a'r gweithwyr proffesiynol sy'n gofalu am y plentyn. 
  • Bydd pawb dan sylw yn cael gwybod yn ysgrifenedig am y penderfyniad, ynghyd â rheswm llawn dros y penderfyniad.

Bydd y Bwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) yn ceisio sicrhau na ddylai'r holl broses o'r atgyfeirio i'r penderfynu gymryd mwy na chwe wythnos (yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru); fodd bynnag, o ystyried cymhlethdod ac amrywiaeth yr anghenion y gall y BIP fod yn eu hasesu, mae lle i hyblygrwydd.

Adolygiadau o benderfyniadau a wnaed gan y tîm Gofal Parhaus

Anogir rhieni/gofalwyr i gysylltu â'r rheolwr Gofal Parhaus cyn gynted ag sy'n bosibl os ydynt yn anfodlon ar unrhyw ran o'r broses Gofal Parhaus.

Anelir at ymgysylltu a thryloywder er mwyn gwneud cwynion, anghydfodau neu apeliadau'n llai tebygol, ond gall hyn ddigwydd ar adegau.

Hoffai'r Bwrdd Iechyd Prifysgol sicrhau ei bod mor hawdd â phosibl ichi ofyn am adolygiad o benderfyniad cymhwyster am gymorth gofal parhaus. Byddwn yn sicrhau y gweithredir yn deg ynghylch adolygiadau a'u bod yn cael eu datrys yn gyflym.

Mae'r Tîm yn gweithio o:

Woodland House
Maes y Coed Road
Caerdydd
CF144HH

Rhif Cyswllt: 02921 836544
E-bost: Cav.Continuingcare_child@wales.nhs.uk


Adnoddau

Canllawiau ar gyfer Gofal Parhaus i Blant a Phobl Ifanc Llywodraeth Cymru 2020 https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2020-03/canllawiau-ar-gyfer-gofal-parhaus-i-blant-a-phobl-ifanc.pdf                                                                                                                                                  

Atodiadau i'r Canllawiau                                                     

https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2020-03/canllawiau-ar-gyfer-gofal-parhaus-i-blant-a-phobl-ifanc-atodiadau.pdf                                                          
                              

Gwasanaethau Cyffredinol                                          

Gwasanaethau Cyffredinol yw rhai sydd ar gael i bob plentyn a pherson ifanc, ni waeth ei amgylchiadau, ac maent yn cynnwys darpariaeth gan wasanaethau iechyd, addysg a gwirfoddol. Er enghraifft: 

  • Gwasanaethau meddyg teulu
  • Ymwelwyr iechyd
  • Meithrin
  • Ysgol Gynradd ac Uwchradd

Gwasanaethau Arbenigol

Gwasanaethau arbenigol yw rhai penodol y mae meini prawf atgyfeirio fel arfer ynghlwm wrthynt, ac sy'n mynnu atgyfeiriad ac adolygiad rheolaidd. Efallai bydd plant a phobl ifanc yn symud i mewn ac allan o'r gwasanaethau hyn gan ddibynnu ar angen. Er enghraifft:

  • Paediatregydd Cymunedol
  • Therapi Galwedigaethol, Therapi Iaith a Lleferydd, Ffisiotherapi
  • Nyrsys Plant Cymunedol
  • Nyrs Anabledd Dysgu
  • Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS)
  • Tîm Therapi Dwys i Blant (CITT)
  • Gwasanaethau Seicoleg
  • Gwasanaethau Cymorth Dwys i Blant (CISS)
  • Cynllun Datblygiad Unigol
  • Tîm o gwmpas y Teulu (TAF)
  • Tîm Anabledd Integredig
  • Tîm Plant ag Anabledd


Dolenni Defnyddiol

Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru                                                      

Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru                                            

Gwasanaethau Plant, Cyngor Caerdydd                                                  

https://www.cardiff.gov.uk/ENG/resident/Social-Services-and-Wellbeing/Children/Child-disability/Pages/default.aspx                                                                                                

Gwasanaethau Plant, Bro Morgannwg                                                        

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/en/living/social_care/children_and_young_people/Children-and-Young-People.aspx


Dychwelyd i'r Gwasanaethau Iechyd Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd                                           

Dilynwch ni