Neidio i'r prif gynnwy

Seicoleg y Blynyddoedd Cynnar

Gair Amdanom Ni

Mae ein tîm yn cefnogi plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymhleth, yn ogystal â'u teuluoedd, i ddeall anghenion y plentyn, canfod ffyrdd o fodloni'r anghenion hyn a chefnogi teuluoedd gyda'u teimladau a'u hemosiynau ynghylch eu profiadau. Nodir Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymhleth drwy gwblhau Asesiad Sgrinio'r Rhestr Sgiliau Tyfu, a gwblheir fel arfer gan Ymwelydd Iechyd. Cydweithiwn â theuluoedd a'r gweithwyr proffesiynol sy'n cael eu cynnwys er mwyn helpu teuluoedd i ddilyn y llwybr newydd y cawsant eu hunain arno.

Cynigiwn nifer o wasanaethau:

Portage a phontio i'r ysgol feithrin

Gwasanaeth ymweliadau cartref yw Portage sy'n cynnig cymorth i deuluoedd sydd â phlentyn cyn oed ysgol ag Oedi Cyffredinol mewn Datblygiad (GDD) neu Anabledd Dysgu sy'n dod i'r amlwg.

Fel arfer, bydd Cynghorwr Datblygiad Plant (CDP) yn ymweld bob pythefnos ac yn cefnogi datblygiad eich plentyn drwy chwarae ac yn cofnodi ei gynnydd gan ddefnyddio Rhestr Wirio Datblygiad Portage. Bydd angen ichi ymarfer y sgiliau bob dydd. Gall hyn barhau tan y tymor ar ôl 3ydd pen-blwydd eich plentyn, lle mae'r pwyslais wedyn ar bontio i'r ysgol feithrin.

Cliciwch yma i gael ychydig o syniadau ymarferol i gefnogi datblygiad eich plentyn, fel caneuon ag ystumiau, adrodd straeon, gweithgareddau rhif a chwarae synhwyraidd bwytadwy. 

Tylino Babanod a Thylino Stori

Tylino Babanod yw'r broses o fwytho corff eich baban yn ysgafn a rhythmig â'ch dwylo. Mae'n helpu gydag ymlacio, creu cwlwm agosrwydd a llawer mwy. Cwrs byr yw Tylino Stori y gellir ei gynnal ochr yn ochr â Thylino Babanod neu'n weithgaredd ar ei ben ei hun. Byddwch yn dysgu gwahanol gyffyrddiadau tylino y gellir eu gwneud drwy ddillad i'w rhoi gyda rhigymau a straeon i ychwanegu dimensiwn arall at adrodd straeon. Mae'n cynnwys holl fanteision Tylino Babanod ac ychydig o hwyl ychwanegol.

Mae Hayley yn hyfforddwr a byddai'n dod i'ch tŷ dros gyfnod o 4 i 6 wythnos ac yn dysgu'r sgiliau hyn i chi. 

Cyngor a chymorth i fwytawyr cyfyngol a'r rhai sy'n osgoi bwyta

Mae Justine yn therapydd bwydo hyfforddedig Geneuol-Synhwyraidd Dilyniannol (SOS). Ar hyn o bryd, mae'n gweithio gyda babanod sy'n cael eu bwydo drwy diwb drwy'r clinig bwydo ar y cyd a weithredir gan Maggie Knight, Dietegydd Cymunedol. Mae rhaglen SOS yn caniatáu i faban neu blentyn ryngweithio â bwyd mewn modd chwareus, di-straen, ac yn ystyried y sail dystiolaeth a'r Camau Bwyta ochr yn ochr â hyn. 

Gall Justine gynnig dull ymgynghori hefyd i'r holl blant neu fabanod y mae ein tîm ni'n gweithio gyda nhw, sydd â diet cyfyngedig a bwyta mympwyol hyd at 3 oed.

Cwnsela un ac un a chwnsela pâr i aelodau teulu

Mae cael plentyn ag anghenion ychwanegol yn gallu deffro llu o emosiynau. Nod cwnsela yw cynnig lle heb farnu lle gallwch fod yn rhydd i fynegi eich meddyliau a'ch emosiynau. Drwy gael lle ichi'ch hun i siarad am eich teimladau, gellir eich helpu i deimlo llai wedi'ch llethu a dod i ddeall eich profiadau. 

Os ydych yn teimlo yr hoffech siarad â therapydd seicolegol am 'gwnsela' neu am unrhyw fath o gymorth emosiynol (hyd yn oed os ydych yn teimlo nad oes neb ar y ddaear y gallech rannu eich profiadau gyda nhw) gallwch naill ai ofyn i'ch CDP, ein ffonio'n uniongyrchol neu anfon e-bost atom yn eyp.parentcounselling@wales.nhs.uk

Cymorth a dealltwriaeth ynghylch plant sy'n arddangos ymddygiadau heriol

Cymorth i frodyr a chwiorydd

Datblygwyd grŵp cymorth i frodyr a chwiorydd i blant 7-11 oed sydd â brawd neu chwaer ieuengach ag oediad cyffredinol cymhleth mewn datblygiad neu anableddau dysgu sy'n dod i'r amlwg. Yn ystod y grŵp, bydd y brodyr a'r chwiorydd yn cael hwyl yn chwarae gemau ac yn gwneud celf a chrefft. Byddant hefyd yn cael y cyfle i gwrdd â phlant eraill sy'n cael profiadau tebyg, a gwneud ffrindiau â nhw. Byddant yn cael eu hwyluso i drafod y profiadau hyn a datblygu ffyrdd o reoli sefyllfaoedd anodd. Byddant hefyd yn cael cyfle i ddysgu am Oediad Cyffredinol mewn Datblygiad ac Anableddau Dysgu a gofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddynt. 

Os ydych yn teimlo y byddai eich plentyn yn elwa ar y grŵp hwn, cysylltwch â ni:

Alice Horton (Therapydd Seicolegol): alice.horton@wales.nhs.uk neu 07971917805

 

E-PAtS: Dulliau Cadarnhaol Cynnar ar gyfer Cynorthwyo

Cefnogi teuluoedd plant (0-5 oed) sydd ag oedi datblygiadol byd-eang sylweddol/anableddau dysgu datblygol. 

Datblygwyd Rhaglen Cefnogi Rhieni E-PAtS gan Ganolfan Tizard ym Mhrifysgol Caint gan Dr Nick Gore a Jill Bradshaw, gan ddefnyddio Cydgynhyrchu.  Mae’n darparu gwybodaeth o ansawdd uchel (yn seiliedig ar dystiolaeth) a chymorth sensitif yn y blynyddoedd cynnar i helpu i adeiladu dyfodol disglair i blant ag anableddau


Sut mae cael at y gwasanaeth

Dim ond gan weithwyr iechyd plant proffesiynol, fel Ymwelwyr Iechyd, y mae'r gwasanaeth hwn yn derbyn atgyfeiriadau. Ni ellir derbyn atgyfeiriadau gan feddygon teulu. 

Gall Ymwelwyr Iechyd gynnal asesiad sgrinio, sy'n cael ei alw'n Rhestr Sgiliau Tyfu, gyda'r plant y byddant yn gweithio gyda nhw. Defnyddir canlyniadau'r asesiad sgrinio hwn i werthuso a ydy'r gwasanaeth hwn yn briodol i'ch plentyn. 


Adnoddau

Cliciwch yma am syniadau ymarferol i gefnogi datblygiad eich plentyn, fel caneuon ag ystumiau, adrodd straeon, gweithgareddau rhif a chwarae synhwyraidd bwytadwy. 

Gwybodaeth am Oedi Cyffredinol mewn Datblygiad 

Gwybodaeth am Oedi a Gwrando 

Gwybodaeth am Flychau Tap Tap

Nam Amlsynhwyraidd

Cymorth i Rieni
 

(Diweddarwyd Ionawr 2024)


Dychwelyd i Wasanaethau Iechyd Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd

 

Dilynwch ni